Cynnal taith gerdded i gefnogi heddwas gafodd ei saethu yng Ngogledd Iwerddon

Mae torfeydd wedi ymgasglu yn Sir Tyrone i ddangos undod gyda heddwas gafodd ei saethu pan nad oedd ar ddyletswydd.
Mae'r Ditectif Brif Arolygydd John Caldwell yn parhau'n ddifrifol wael ar ôl yr ymosodiad mewn canolfan chwaraeon yn Omagh nos Fercher.
Mae pump o ddynion wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i geisio llofruddio.
Mae'r heddlu wedi dweud mai'r grŵp gweriniaethol y New IRA yw prif ganolbwynt eu hymchwiliad.
Bore dydd Sadwrn, daeth pobl at ei gilydd yn Beragh, tuag wyth milltir o Omagh, mewn gwylnos i Mr Caldwell.
Fe wnaethant gymryd rhan mewn taith gerdded o gae clwb y Beragh Swifts ar gyfer Mr Caldwell, sy'n hyfforddwr ieuenctid gwirfoddol yn y clwb pêl-droed.
Dywedodd cadeirydd y Beragh Swifts, Richard Lyons, fod y gymuned wedi ymgasglu i gefnogi eu ffrind ac er mwyn yr holl blant sydd wedi cael eu heffeithio gan y saethu.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r clwb; mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r gymuned,” meddai.
“Gweithiodd John yn ddiflino i’r clwb hwn, nid yw’n wahanol i unrhyw wirfoddolwr arall… mae’r cyfraniad y mae John yn ei roi i’r clwb hwn yn anhygoel, ac mae hwn yn gyfnod anhygoel o anodd i ni gyd.”
Bydd rali yn cael ei chynnal yng nghanol tref Omagh yn ddiweddarach.
Llun: PA