Newyddion S4C

2 Sisters Llangefni

‘Torcalon’ wrth i 2 Sisters gadarnhau nad oes dyfodol i'w ffatri yn Llangefni

NS4C 24/02/2023

Daeth cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener nad oedd unrhyw gynlluniau pendant gan gwmni 2 Sisters i gadw eu ffatri ar agor yn Llangefni, a’u bod yn symud ymlaen gyda chynlluniau i roi’r gorau i gynhyrchu ar y safle.

Daw hyn ar ôl i’r cwmni ddweud bod adolygiad o’r safle wedi dangos nad oedd y ffatri bellach yn gynaliadwy.

Mewn datganiad gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a'r Gweinidog Amaeth Lesley Griffiths AS, dywedodd y llywodraeth y bydd nawr yn canolbwyntio ar “gydlynu cymaint o gymorth â phosibl” i gefnogi'r gweithwyr, “o ran sicrhau cyflogaeth newydd yn y dyfodol a'u lles.”

Ychwanegodd y datganiad: “Siom oedd clywed gan y cwmni nad oedd cam cyntaf yr ymgynghoriad wedi adnabod unrhyw gynlluniau hyfyw ar gyfer 2 Sisters Ltd i gynnal y safle yn Llangefni, a bod y cwmni bellach yn symud ymlaen gyda chynlluniau i roi'r gorau i gynhyrchu yno.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU, Cyngor Ynys Môn, yr undebau llafur a rhandaliad eraill i gefnogi'r unigolion a'r gymuned leol.”

Dyweddodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o Senedd Cymru dros Ynys Môn: “Mae'r datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw'n cadarnhau beth ddaeth yn eglur yn y cyfarfod o'r tasglu wythnos yn ôl, sef nad yw 2 Sisters yn barod i ystyried unrhyw opsiwn ar gyfer achub eu safle yn Llangefni.

“Mae'n dorcalonnus i bawb sy'n gweithio yno a'u teuluoedd, a dwi'n meddwl amdanyn nhw fwy na neb.

“Mi allaf eich sicrhau bod yna benderfynoldeb i wneud popeth posibl i'w helpu, i ddod o hyd i gyflogaeth wrth gwrs, ond hefyd i ymdopi efo'r ergyd hon mewn amser o galedi ac argyfwng costau byw"

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.