Undeb athrawon NASUWT yn gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru
Mae aelodau undeb athrawon wedi gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Mewn ymateb i ymgynghoriad gan NASUWT Cymru, roedd 69% o'r aelodau o blaid gwrthod y cynnig.
Roedd 66% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo fod yn cynnig yn un annheg dan yr amgylchiadau presennol.
Dywedodd Dr Patrick Roach, Ysgrifennydd Cyffredinol NASUWT: “Er ein bod yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnig newydd ar ôl misoedd o geisiadau, y gwir yw bod y cynnig diweddaraf yn cynrychioli toriad tâl i athrawon mewn termau real.”
Dywedodd fod yr ymateb yn dangos "pa mor anhapus ydi'r athrawon".
Daw hyn ar ôl i aelodau Undeb Addysg Genedlaethol (NEU) wrthod cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru yn ogystal.
'Heriol'
Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol NASUWT dros Gymru: “Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cyflog sy’n mynd i’r afael o ddifrif â’r erydiad mewn termau real ar gyflogau athrawon ers 2010.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod gwaith rhagorol ein gweithlu" ond bod y llywodraeth yn wynebu "cyfyngiadau ariannol heriol".
“Er mwyn i athrawon allu elwa o godiad cyflog ychwanegol wedi’i ôl-ddyddio ar gyfer 2022-23, bydd angen cytundeb erbyn canol mis Mawrth," medden nhw.