Dyn o Lŷn yn gyrru adref o’r llys ar ôl cael ei wahardd rhag gyrru
Fe wnaeth dyn o Wynedd yrru adref o’r llys ar ôl cael ei ddal yn euog o yfed a gyrru.
Wedi gwrandawiad yn y llys fore ddydd Mawrth fe wnaeth y dyn o Bwllheli yrru adref ar ôl cael ei wahardd rhag gyrru am 12 mis.
Fe wnaeth heddlu’r gogledd ei stopio ac mae’r dyn yn wynebu cyhuddiadau am yrru tra wedi ei wahardd, a dim yswiriant.