Cyhoeddi enw dyn lleol fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhenfro
Mae teulu dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro fore Llun wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Chris John, 31 oed, mewn gwrthdrawiad ar yr A478 ger Llandysilio.
Dywed ei deulu eu bod nhw'n "hynod falch" ohono ac wedi gofyn am breifatrwydd wrth iddynt alaru.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r gwrthdrawiad rhwng cerbyd Mr John a bws ysgol am oddeutu 08:35.
Roedd y bws yn cludo disgyblion i Ysgol y Preseli, gyda rhai o'r plant ar y bws yn derbyn triniaeth ar gyfer man anafiadau.
Dywedodd y teulu: "Mae'r teulu cyfan wedi cael eu dryllio o golli Chris mewn ffordd mor sydyn a thrasig - roedd yn dad, gŵr, mab a brawd annwyl.
"Roedd Chris yn dotio tuag at bawb ac yn cael ei barchu gan bawb wnaeth gyffwrdd ei fywyd, yn enwedig ei ddwy ferch ifanc.
"Er mai ei deulu oedd ei gariad cyntaf, rydym yn hynod falch o'i lwyddiant yn y byd chwaraeon, gan gynrychioli ei wlad yn y short Matt Bowls ynghyd â'i dad a'i frawd bach.
"Rydym wedi cael ein syfrdanu gan yr holl gefnogaeth gan ei ffrindiau ef a'n ffrindiau lu, yn Llanboidy lle cafodd ei fagu a'i gartref yn Clunderwen.
"Hoffem nawr gael amser i alaru a byddem yn gofyn am breifatrwydd wrth wneud hynny."
Llun teulu