Newyddion S4C

Gall yr anghydfod presennol fod yn 'ddechrau'r diwedd' i Undeb Rygbi Cymru

22/02/2023
Chwaraewyr Cymru yn dilyn y golled yn erbyn Iwerddon yn y Chwe Gwlad 2023.

Gallai'r anghydfod gyda'r chwaraewyr fod yn  "ddechrau'r diwedd" i Undeb Rygbi Cymru wrth i'r terfyn amser ar gyfer cyfaddawd agosáu, medd un sylwebydd. 

Mae chwaraewyr rygbi Cymru wedi bygwth streicio os na ddaw cyfaddawd erbyn nos Fercher, gan godi amheuon a fydd gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn yn cael ei chynnal. 

Cafodd cyhoeddiad y garfan ar gyfer y gêm ei ohirio ddydd Mawrth, wedi i chwaraewyr a'r undeb fethu â chyfaddawdu. 

Nid yn unig chwaraewyr y tîm cenedlaethol sydd yn bygwth streicio, ond mae chwaraewyr y rhanbarthau hefyd wedi dweud bod gweithred ddiwydiannol yn "bosibiliad pendant." 

Fe fydd Bwrdd Rygbi Proffesiynol Cymru (PRB), sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o URC a'r rhanbarthau, yn cwrdd fore Mercher ar gyfer trafodaethau pellach. 

Fe fydd y PRB hefyd yn cwrdd â holl chwaraewyr proffesiynol Cymru er mwyn cynnig datrysiad i'r anghydfod presennol. 

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C, dywedodd y sylwebydd rygbi, Gareth Charles, y gallai'r anghydfod fod yn "ddechrau'r diwedd" i Undeb Rygbi Cymru. 

"Petai'r gêm ddim yn cael ei chynnal dydd Sadwrn, byddai'r byd rygbi a'r byd yn gyffredinol yn edrych ar yr undeb ac yn dweud, 'beth ar ddaear lan sy'n digwydd?'"

"Fi'n credu gall hyn fod yn ddechrau'r diwedd i'r undeb oherwydd mae 'na lot o leisio am newid yn y gyfundrefn.

"Petai'r gemau ddim yn mynd ymlaen, fi'n meddwl bydde nhw'n dweud dyw'r undeb ddim yn ffit.

"Galle fe fod yn ddiwedd yr undeb, a dyna pam dwi'n meddwl daw rhyw fath o gyfaddawd ddydd Mercher. 

"Cyfaddawd tymor byr bydd hi, ond dwi jyst yn gobeithio bydd y trafod yn mynd ymlaen ar ôl hynny achos ni ddim am fod yn yr un picl na'r un sefyllfa flwyddyn i nawr."

Mae'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol wedi dweud bod gofalu am eu chwaraewyr o "bwysigrwydd enfawr" yn ystod y trafodaethau a'r cam nesaf yw i "sicrhau'r cytundebau, a byddwn yn gweithredu mor gyflym ag y gallwn er mwyn cyrraedd y pwynt hwnnw."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.