Newyddion S4C

Wizz Air

Wizz Air y cwmni awyrennau 'gwaethaf' yn ôl teithwyr

NS4C 22/02/2023

Mae Wizz Air wedi'i enwi fel y cwmni awyrennau "gwaethaf" yn ôl arolwg ymhlith teithwyr yn y DU. 

Daw canlyniadau'r arolwg gan Which? ychydig dros fis ers i'r cwmni gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau i hedfan o faes awyr Caerdydd. 

Cyhoeddodd y cwmni ganol mis Ionawr y byddai ei ganolfan yn y maes awyr, a oedd yn cyflogi 40 o bobl, yn cau o fewn pythefnos.

Ar y pryd, dywedodd Llywodraeth Cymru, sydd yn berchen ar y maes awyr, ei fod yn "siomedig" yn sgil penderfyniad y cwmni. 

Bellach mae Wizz Air wedi derbyn y sgôr isaf gan gwsmeriaid yn rhan o arolwg o gwmni awyrennau sydd yn hedfan o'r DU. 

Cafodd y cwmni un seren allan o bump ar gyfer nifer o elfennau o'i wasanaethau fel safon y caban a pha mor gyfforddus yw'r seddi. 

Ni wnaeth y cwmni dderbyn sgôr uwch na dwy seren allan o bump am weddill y categorïau, gan gynnwys gwerth am arian a glendid. 

Mae'r Asiantaeth Awyrennau Sifil y DU (CAA) eisoes wedi codi pryderon ynglŷn ag ymddygiad "annerbyniol" Wizz Air, gan ddweud bod cwsmeriaid y cwmni yn fwy tebygol o gwyno o gymharu â chwmnïau eraill. 

Dywedodd golygydd teithio Which?, Rory Boland, fod teithwyr wedi cael "amser ofnadwy" wrth deithio gyda Wizz Air yn ddiweddar gan awgrymu y dylid osgoi'r cwmni. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Wizz Air: "Yn Wizz Air, rydym yn gwneud popeth posib i sicrhau bod teithwyr yn cyrraedd pen eu taith ar amser heb oedi sylweddol. 

"Rydym yn teimlo nad yw'r arolwg bychan hwn, sydd wedi ei wneud yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf heriol i'r diwydiant hedfan, yn adlewyrchiad cywir o farn y degau o filiynau o gwsmeriaid sydd wedi teithio gyda ni dros y cyfnod hwnnw."

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.