Dim buddugoliaeth i Gymru yn ei gêm olaf yng Nghwpan Pinatar

Mae menywod Cymru wedi methu â sicrhau buddugoliaeth yn ei gêm olaf o'r Cwpan Pinatar wedi gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Yr Alban.
Fe aeth y ddau dîm i mewn i'r ornest gyda gobeithion o wella eu cyfleoedd i ennill y bencampwriaeth yn Sbaen.
Ond Yr Alban ddechreuodd orau, gan fynd ar y blaen o fewn wyth munud o chwarae wrth i Sophie Howard benio'r bel i'r rhwyd.
Parhaodd Yr Alban i roi pwysau ar Gymru yn ystod yr hanner cyntaf, ond yn ffodus i fenywod Gemma Grainger ni ddaeth ail gôl.
Yn hytrach, tarodd Cymru yn ôl ychydig cyn yr egwyl, gan sgorio gôl hyfryd wrth i'r bêl deithio o ddwylo'r gôl geidwad i gefn rhwyd Yr Alban.
Symudodd y bêl yn gampus i lawr y cae trwy Olivia Clark i Hannah Cain i Jess Fishlock cyn i Ceri Holland rwydo ar drothwy'r ail hanner.
Cymru oedd yn edrych fwyaf peryglus ar ôl yr egwyl, ond ni ddaeth gôl arall.
Mae Cymru yn symud i frig y tabl yn sgil y canlyniad, ond yn gobeithio am ffafr gan dimau eraill er mwyn ennill y bencampwriaeth.
Fe fydd yn rhaid i Ynysoedd y Philipinau, sydd heb ennill gêm hyd yn hyn, guro Gwlad yr Ia er mwyn i Gymru gipio'r tlws.