Cyfres lyfrau i ddysgwyr Cymraeg ar gael fel llyfrau llafar yn fuan

Fe fydd y gyfres lyfrau ar gyfer dysgwyr Cymraeg, 'Amdani!', ar gael fel llyfrau llafar am y tro cyntaf erioed.
Daw hyn wrth i'r gyfres, sydd yn cynnwys 40 o lyfrau gan wahanol awduron a gweisg, ddathlu ei phen-blwydd yn bump oed.
Bwriad llyfrau 'Amdani!' yw annog pobl i ddysgu Cymraeg trwy ddarllen, gan gynnig llyfrau i ddysgwyr ar wahanol lefelau o'r rhai sydd newydd ddechrau i'r rhai sydd bron yn rhugl.
Cafodd y gyfres ei lansio mewn partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chyngor Llyfrau Cymru.
Fel rhan o'r dathliadau pen-blwydd ar gyfer y gyfres eleni, fe fydd pob teitl yn y gyfres ar gael ar ffurf llyfr llafar er mwyn galluogi dysgwyr i glywed yr iaith yn ogystal â'i darllen.
Fe fydd wythnos o ddathliadau hefyd yn cael eu cynnal gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer y gyfres rhwng 27 Chwefror a 3 Mawrth.
Dywedodd Arwel Jones, Pennaeth Datblygu Cyhoeddi’r Cyngor Llyfrau: “Bum mlynedd yn ôl doedd dim llyfrau ar gyfer dysgwyr oedd wedi eu cynhyrchu yn benodol i gyd-fynd â’r lefelau dysgu cenedlaethol. Penderfynodd y Cyngor Llyfrau, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan, gomisiynu 20 o lyfrau pwrpasol o bob math a’u galw yn gyfres Amdani."
Yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae creu cyfleoedd i’n dysgwyr fwynhau defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth yn rhan hollbwysig o’n gwaith yn y Ganolfan, ac mae’r gyfres Amdani yn boblogaidd tu hwnt.
“Mae’r dewis eang o lyfrau difyr yn golygu y bydd llyfr i chi ei fwynhau, p’un a ydych chi newydd ddechrau dysgu, neu’n siaradwr hyderus.
“Bydd y llyfrau llafar yn galluogi’n dysgwyr i fagu hyder trwy glywed yr iaith, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gyda’r Cyngor Llyfrau i gyflwyno hyd yn oed mwy o deitlau i’r gyfres.”