Newyddion S4C

Warren Gatland yn hyderus y bydd y gêm yn erbyn Lloegr yn mynd yn ei blaen

21/02/2023
Warren Gatland

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn hyderus y bydd y gêm yn erbyn Lloegr yn mynd yn ei blaen, er gwaetha'r anghydfod dros gytundebau gydag Undeb Rygbi Cymru.

Cafodd y cyhoeddiad swyddogol i enwi tîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn ei ohirio ddydd Mawrth oherwydd yr ansicrwydd ynghylch yr anghydfod.

Ond mae Gatland yn hyderus y bydd y gêm yn cael ei chwarae.

"Dwi'n hyderus bydd y gêm yn cael ei chwarae. Mae'r chwaraewyr wedi cael tua chwe chyfarfod yn y dyddiau diwethaf. Mae'n dipyn o her ond weithiau mae hynny yn dod â phobl at ei gilydd.

"I fod yn deg i'r chwaraewyr, maen nhw wedi ymarfer yn wych trwy hyn i gyd. Mae pethau wedi mynd ymlaen ond maen nhw wedi bod yn dda ar y cae ymarfer."

Ychwanegodd fod y cyhoeddiad ddydd Mawrth wedi ei ohirio achos ansicrwydd o gwmpas y sefyllfa.

"Dwi'n meddwl achos yr ansicrwydd o gwmpas bob dim. Mae llawer o gyfarfodydd. Roeddwn i eisiau sicrwydd gan y bois gydag yfory wedyn byddwn yn dod 'nôl dydd Iau.

"Dwi'n meddwl bod y bygythiad streicio yn un mawr. Ond wrth siarad gyda phobl heddiw, dwi'n eithaf sicr y bydd bob dim yn cael eu datrys."

Trafodaethau

Mae yna bosibilrwydd y gallai chwaraewyr rygbi yng Nghymru gynnal dwy streic yn ystod yr wythnos nesaf. 

Yn ogystal â'r bygythiad o weithred ddiwydiannol gan chwaraewyr y tîm cenedlaethol, mae chwaraewyr y rhanbarthau hefyd yn ystyried streicio. 

Mae chwaraewyr Cymru yn cwrdd ag Undeb Rygbi Cymru ddydd Mawrth i drafod y sefyllfa.

Un o'r prif bethau fydd yn cael ei drafod ydy'r rheol 60 cap, sydd yn golygu bod chwaraewyr sydd yn chwarae tu allan i Gymru dim ond yn gallu cael eu dewis os ydynt wedi chwarae 60 gêm i Gymru.

"O'r hyn dwi'n ddeall mae'r chwaraewyr wedi gofyn am nifer o bethau i gael eu harsylwi ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal," meddai Gatland.

"Y rheol 60 cap yw un o'r pethau sydd yn cael eu trafod. Mae pawb wedi siarad am y rheol o'r blaen ac mae'n rhoi mwy o gyfle o ran paratoi. Mae mantais i chwarae yng Nghymru.

"Doeddwn i ddim yn ymwybodol am unrhyw broblemau. Roeddwn wedi dysgu am bob dim wythnos ddiwethaf. Mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb.

"Dwi'n meddwl bod y chwaraewyr wedi derbyn sicrwydd y bydd pethau yn cael eu datrys, ond yn anffodus dydyn nhw heb. Dwi'n meddwl bod pawb yn gofyn i bob dim gael eu datrys," ychwanegodd.

Ymysg y chwaraewyr rhanbarthol, mae Ashton Hewitt, sydd yn chwarae i'r Dreigiau ond hefyd yn gadeirydd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA), wedi dweud bod streic yn "bosibilrwydd pendant." 

Daw hyn yn sgil anghydfod dros strwythur y cytundebau sydd wedi'u cynnig i chwaraewyr. O dan gynigion presennol, dim ond 80% o gyflogau chwaraewyr bydd yn cael eu gwarantu, gyda'r 20% sydd yn weddill yn cael ei ennill yn ôl ffactorau fel ennill gemau. 

Dywedodd Mr Hewitt wrth y BBC fod chwaraewyr yn rhwystredig ar ôl derbyn gwybodaeth am y cytundebau "fesul tipyn."

"Mae diffyg dealltwriaeth wedi bod, ac mae yna ddisgwyl i chwaraewyr derbyn cytundebau heb wybod y manylion," meddai. 

"Mae'r ychydig o fanylion sydd wedi dod trwodd, dyw chwaraewyr ddim yn hapus.

"Maen nhw eisiau gwir drafodaeth a dealltwriaeth am y peth ac iddyn nhw ddweud sut maen nhw wedi dod at y rhifau yma a pham mae elfennau penodol yn bodoli."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.