
Hen focs matsys tafarn yn dychwelyd i Gymru o ben draw'r byd

Mae hen focs matsys wedi dychwelyd i Gymru o Awstralia flynyddoedd yn ddiweddarach, ac i ddwylo cyn-berchennog tafarn lle cafodd y bocs ei brynu yn wreiddiol
Mair Davies oedd perchennog tafarn y Ceffyl Du yn nhref Caerfyrddin rhwng 1968 a 1981.
Roedd hi a'i gŵr yn rhedeg y dafarn ac er nad oeddynt yn gwerthu bwyd, roedd blychau matsys a sigaréts yn cael eu gwerthu yno.
Dros 40 bo flynyddoedd ers iddi adael y Ceffyl Du, mae Mair wedi cael gafael ar un o'r blychau matsys yr oedd hyn ei werthu, ac mae hwnnw wedi dod yr holl ffordd o Victoria yn Awstralia.
Daeth ei merch Einir o hyd i'r bocs ar y we, drwy hap a damwain.
"Oni’n gwerth sigaréts a matsys. Oni’n cal y matsys wedi printo, o’dd en peth mawr cael y llun ar y bocs matsys, a sai’ wedi meddwl lot am y peth ers 'ny," meddai Mair.
"Mae’n exciting iawn i ni fel teulu. Pan o ni di dod ar draws e am y tro cynta oni’n excited iawn. A da'th e yn y post o fewn wythnos, a licen i wybod sut ath e i Awstralia yn y lle cynta."

Nid yw Mair wedi teithio yn bellach nag ynys Jersey yn ei bywyd, felly mae'n syndod mawr iddi hi a'i merch Einir fod blwch matsys o ganol Caerfyrddin wedi teithio'r holl ffordd i Awstralia. Doedd y ddwy ddim wedi cadw unrhyw flwch matsys o'r Ceffyl Du chwaith.
"Ma nhw 'di cael eu gwerthu tu ôl i’r bar yn y Ceff a wedi mynd i holl ffordd arall y byd yn Awstralia," medd Einir.
"Licen i wybod sut mae 'di ffindo'i ffordd mas na. Nesi brynu fe ar Ebay am £6 a nath e cyrraedd dros y penwythnos, fi ffili credu'r peth."
"I meddwl bod mam wedi pasio hwn i rywun yn y Ceff ryw 50 blwyddyn yn ôl a nawr ma fe nôl gyda hi ar ôl iddo deithio rownd y byd yn anhygoel i fi."
Ffermwyr a myfyrwyr
Mae'r cyfan wedi dod ag atgofion melys yn ôl i Mair ac Einir, ac mae Mair yn cofio cwrdd â nifer fawr o bobl yn y dafarn ar hyd y blynyddoedd.
"Oni wrth fy modd na am flynydde. Odd e'n waith caled iawn ond oni’n lico fe - o'dd e'n gwaith eitha' hapus. Ma soft spot da fi o hyd am y Ceff - nes i gwrdd â gymaint o bobl o ffermwyr i bobl ifanc - o'dd y cymysgwch 'na.
"O'dd y myfyrwyr yn dod i’r coleg a o'dd e’n neis i gael rywun i siarad 'da nhw. A dweud y gwir fi dal mewn cysylltiad gyda nifer o nhw yn y gogledd."
Cafodd Einir ei geni yn y Ceffyl Du, ac mae'n cofio cael ei magu yno gyda'i rhieni tu ôl y bar.
Pan symudodd y teulu o'r dafarn yn 1981, roedd Einir yn gyndyn i adael.
"O'dd dim bar yn Coleg y Drindod felly odd lot o stiwdents yn defnyddio’r Ceff i gwrdd a o'dd mam fel mam i lot o nhw fi’n credu.
"O'dd e’n le rili dda i dyfu lan, odd en fishi trwy’r amser, oni ddim mo'yn dod o 'na."