Newyddion S4C

Disgwyl cyhoeddi carfan Cymru yng nghanol dyfalu a fydd streic

Disgwyl cyhoeddi carfan Cymru yng nghanol dyfalu a fydd streic

NS4C 21/02/2023

Mae disgwyl i garfan Cymru i wynebu Lloegr gael ei chyhoeddi amser cinio ddydd Mawrth, er nad yw hi'n glir eto a fydd y chwaraewyr yn streicio.

Mae Cymru yn chwarae yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn, ond mae'n bosib na fydd y gêm yn cael ei chynnal gyda'r chwaraewyr yn bygwth streicio a pheidio chwarae.

Daw hyn wrth i'r anghydfod dros gytundebau barhau, ac mae'r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru yn dweud bod yr oedi dros sicrhau cytundebau yn "ychwanegu at ansicrwydd" dyfodol chwaraewyr rhanbarthol Cymru.

Mae'r cyn gapten Alun Wyn Jones wedi dweud mai streicio yw'r opsiwn olaf i'r chwaraewyr. Mae angen iddyn nhw benderfynu a ydynt am streicio ai peidio erbyn dydd Mercher.

Dyw'r hyfforddwr Warren Gatland ddim yn cefnogi'r streic, ond dywedodd ei fod yn "gefnogol i'r chwaraewyr a'r pethau maen nhw'n ceisio eu gwneud."

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, maen nhw'n gweithredu ar gyflymder, er mwyn cadarnhau cytundebau'r chwaraewyr.

Mae Cymru wedi colli eu dwy gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Iwerddon a'r Alban.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.