Bron i chwarter aelwydydd yn 'brin o arian ar gyfer hanfodion’

Mae bron i chwarter aelwydydd yn brin o arian ar gyfer hanfodion yn gyson, yn ôl grŵp o elusennau.
Trwy'r Deyrnas Unedig, mae 37% o bobl yn cyrraedd diwedd y mis heb unrhyw arian yn weddill, tra bod bron i chwarter (24%) yn rhedeg allan o arian ar gyfer hanfodion naill ai bron bob mis neu’r rhan fwyaf o ddyddiau.
Dyna gasgliad arolwg ar gyfer menter 'Together Through This’ a gafodd ei sefydlu gan elusennau Achub y Plant, Turn2us, Little Village, Shelter a 38 Degrees.
Hyd yn oed ymhlith y 10 etholaeth fwyaf cefnog yn y DU, dywedodd 19% o bobl nad oeddent yn gallu talu am fwyd neu filiau erbyn diwedd y rhan fwyaf o fisoedd. Roedd y ffigwr yn 26% mewn ardaloedd difreintiedig.
Yn gyffredinol, dywedodd 6% o bobl na allent dalu am hanfodion bron bob dydd, gan godi i 11% yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Bu'r arolwg barn yn holi pobl yn y 100 etholaeth mwyaf difreintiedig a’r 100 etholaeth lleiaf difreintiedig yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae 'Together Through This Crisis' wedi ysgrifennu llythyr agored at y Prif Weinidog Rishi Sunak a’r Canghellor Jeremy Hunt yn gofyn iddynt “weithredu i sicrhau nad yw’r argyfwng a ddangosir gan y ffigurau hyn yn dod yn normal newydd i’r DU”.
Mae’r llythyr yn galw’n benodol am gymorth bil ynni effeithiol, parhaus, ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn, blaenoriaethu teuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau cyfatebol a dadrewi budd-dal tai.
Dywedodd prif weithredwr 38 Degrees, Matthew McGregor: “Mae’r arolwg barn hwn yn rhoi darlun llwm o’r argyfwng sy’n datblygu ledled y wlad: mae teuluoedd sy’n rhedeg allan o arian i roi bwyd ar y bwrdd a chadw plant yn gynnes yn prysur ddod yn normal newydd i ni.
Fe wnaeth yr arolwg holi 2,014 o oedolion y DU rhwng Chwefror 10-14.