Newyddion S4C

Nicola Bulley: Heddlu yn dod o hyd i gorff mewn afon

19/02/2023
Nicola Bulley

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff yn yr afon yn agos at lle aeth Nicola Bulley ar goll.

Diflannodd y fam 45 oed ar 27 Ionawr tra'n mynd â'i chi am dro ar lan afon ym mhentref St Michael's on Wyre.

Roedd yr heddlu'n credu y gallai'r cynghorydd morgeisi fod wedi syrthio i Afon Wyre.

Dywedodd llefarydd ar ran heddlu Swydd Gaerhirfryn: “Fe gafon ni ein galw am 11.36am y bore ma yn dilyn adroddiadau bod corff yn Afon Wyre.

“Mae’r tîm chwilio tanddwr wedi ymweld a’r safle, wedi mynd i’r dŵr ac yn drist iawn wedi tynnu corff oddi yno.

“Dyw’r corff heb ei adnabod yn ffurfiol ar hyn o bryd felly nid yw’n bosib dweud ai dyma yw Nicola Bulley ar hyn o bryd.

“Mae teulu Nicola wedi cael gwybod ac rydyn ni’n cydymdeimlo â nhw ar adeg mor anodd.

“Rydyn ni’n gofyn i bobol barchu eu preifatrwydd nhw.”

Mae Heddlu Sir Gaerhirfryn wedi derbyn beirniadaeth chwyrn am ryddhau gwybodaeth am broblemau'r fam i ddau gydag alcohol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, ei bod hi wedi mynegi pryderon wrth gwrdd â’r Prif Gwnstabl Chris Rowley ddydd Gwener.

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak hefyd wedi dweud ei fod yn “pryderu fod gwybodaeth breifat yn y parth gyhoeddus”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.