Newyddion S4C

Golygu llyfrau Roald Dahl yn cythruddo arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

Roald Dahl ac Andrew RT Davies

Mae penderfyniad cyhoeddwyr i olygu llyfrau Roald Dahl er mwyn tynnu rhai disgrifiadau a allai dramgwyddo darllenwyr wedi cythruddo arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae'r cyhoeddwyr Puffin wedi penderfynu golygu rhai darnau o’r llyfrau er mwyn “sicrhau bod modd i ddarllenwyr heddiw barhau i'w mwynhau,” medden nhw.

Ond mae’r penderfyniad i newid elfennau o straeon yr awdur, a gafodd ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd, wedi cythruddo rhai.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, fod y newidiadau yn “nonsens”.

“Does yna ddim amheuaeth y byddai Roald Dahl wedi gwrthwynebu hyn,” meddai.

Ymysg y newidiadau mae torri'r gair “tew” o’r cyfrolau Saesneg. Disgrifir Awgwstws Gloop fel bachgen “anferth” yn lle.

Mae disgrifiad o “dagell” un o’r Twits hefyd wedi ei ddileu.

Mae’r Wmpalwmpas hefyd wedi eu disgrifio fel “pobl bach” yn hytrach na “dynion bach”.

'Miniog'

Ond dywedodd llefarydd ar ran Roald Dahl Story Company sy’n eiddo ar hawlfraint y llyfrau eu bod nhw’n cytuno â’r newidiadau.

“Wrth gyhoeddi rhediadau print newydd o lyfrau a ysgrifennwyd flynyddoedd yn ôl, nid yw’n anarferol adolygu’r iaith a gafodd ei ddefnyddio,” medden nhw.

Roedd y newidiadau rheini yn cyd-fynd a newidiadau eraill fel newid “clawr llyfr a diwyg y dudalen,” medden nhw.

“Ein hegwyddor drwyddi draw fu cynnal y stori, y cymeriadau, ac ysbryd miniog y testun gwreiddiol."

Mae Cymru wedi bod yn awyddus i fanteisio ar boblogrwydd Roald Dahl dros y blynyddoedd diwethaf gyda'r sgwâr nepell o'r Senedd wedi ei enwi ar ei ôl.

Roedd Theatr Genedlaethol Cymru hefyd wedi cynnal diwrnod er mwyn dathlu 100 mlynedd ers genedigaeth Roald Dahl yn 2016.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.