Chwech wedi marw mewn achos o saethu yn yr UDA

Mae chwech o bobl wedi marw yn dilyn saethu yn nhalaith Mississippi yn yr UDA.
Dywedodd yr heddlu yn Arkabutla eu bod nhw wedi arestio a chyhuddo Richard Dale Crum, dyn lleol 52 oed o lofruddiaeth.
Yn ôl adroddiadau roedd y dyn wedi saethu ei gyn-wraig a phump o bobl eraill gan gynnwys ei lystad yn y gymuned wledig o lai na 300 o bobl yng ngogledd y dalaith.
Dywedodd Llywodraethwr y dalaith Tate Reeves nad oedd unrhyw un arall yn cael eu hamau am y digwyddiad.
Dywedodd yr heddlu fod gan y dyn ddryll a dau wn llaw yn ei feddiant.
Llun: Tate County Sheriff