
Pris y crys: Record arall i Gareth Edwards?
Pris y crys: Record arall i Gareth Edwards?

Mae arwerthwyr yn gobeithio y bydd crys rygbi Barbariaid Gareth Edwards yn cael ei werthu am y pris uchaf erioed mewn arwerthiant ar 24 Chwefror.
Gwisgodd Gareth Edwards y crys wrth sgorio yn erbyn Seland Newydd yn 1973, ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r ceisiau gorau erioed.
Symudodd y Barbariaid y bêl o flaen eu pyst eu hunain yr holl ffordd i linell gais Seland Newydd, gyda chwaraewyr oedd yn cynnwys Phil Bennett a J.P.R Williams yn rhan o'r symudiad a gafodd ei gwblhau gan Gareth Edwards.
Y disgwyl yw y bydd y crys hwnnw yn torri record y byd, sef £180,000, a dyna yw gobaith yr arwerthwr, sef Ben Rogers Jones o Arwerthwyr Rogers Jones.

"Dani'n meddwl mai hwn sydd mynd i wneud record y byd, record y byd ar hyn o bryd ydy £180,000, efo ni, efo crys All Blacks.
"Ond gobeithio, a dwi'n meddwl bod hwn yn mynd i neud mwy na hwnna. Ma' hwn yn £150,000-£200,000 estimate. Mae'r lleill gydag estimates bach o gymharu, tua £20,000 ydy'r mwyaf a mae 'na crysau am tri neu pedwar neu saith i deg mil.
"So ma' 'na range o prisiau am y crysau ond hwn ydy'r big one."
Bywgraffiad
Bydd y crysau a wisgodd Gareth Edwards yn ystod ei yrfa, a hefyd rhai ei wrthwynebwyr, yn cael eu gwerthu hefyd.
O Seland Newydd i Gaerdydd ac Iwerddon i'r Llewod, mae ystod o grysau ar gael i brynwyr ac mae Ben yn dweud bod yr amrywiaeth o grysau yn fath o fywgraffiad o yrfa Gareth Edwards.
"Mae'n grêt achos mae'n tipyn bach yn biographical o career Gareth. Ac yr un Barbariaid yw'r un eiconic wrth gwrs.
"Mae'n diddorol ymchwilio y jerseys ac yn dysgu mwy am gyrfa Gareth."
Pe bai'r crys yn gwerthu am record byd, dyna fydd yr eildro i Ben a'i gwmni dorri record byd am werthu crys rygbi.
Y cyntaf oedd crys Y Crysau Duon a gafodd ei wisgo gan Dave Gallaher, capten Seland Newydd dros 100 o flynyddoedd yn ôl.
Gwerthodd hwnny am £180,000 yn 2015, ond byddai Ben wrth ei fodd, pebai'n torri'r record eto.
"Be' ma' nhw'n dweud yn y pêl-droed? Over the moon dwi'n meddwl. So fingers crossed ma hwn yn mynd i wneud yn reit dda."