Cymru i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol

Cymru i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw am dreialu cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol, cynllun sydd yn golygu bod pawb yn derbyn taliad cyson ar gyfer costau byw sylfaenol.
Mae gwleidyddion wedi hir drafod y syniad, ac mae cefnogwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad o gynllun peilot.
Yn siarad ag ITV Cymru Wales, dywedodd Mark Drakeford mai bwriad y cynllun peilot yw i ganfod a yw’r dadleuon o blaid Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn cael eu gwireddu “pan rydych chi’n trio ei wneud yn ymarferol.”
Cydnabyddodd nad oes gan Lywodraeth Cymru’r cyllid i gyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn llawn, ac mae’r Llywodraeth hefyd wedi cydnabod nad oes ganddynt y pŵer i’w gyflwyno’n llawn gan nad yw’r system les wedi ei datganoli.
Beth yw Incwm Sylfaenol Cyffredinol?
O dan Incwm Sylfaenol Cyffredinol mae llywodraeth yn talu swm cyson o arian i bob dinesydd, beth bynnag ei sefyllfa ariannol.
Mae hyn yn cymryd lle budd-daliadau a thoriadau treth ar sail angen.
Mae dadleuon ynghylch y cynllun yn tueddu i ffocysu ar ba mor fforddiadwy ydyw, a pha effaith y gallai ei gael ar iechyd a lles pobl, gan gynnwys cymhelliant pobl i weithio.
Yn ôl cefnogwyr y cynllun, mae’n llai cymhleth na’r system budd-daliadau, a gallai helpu i roi diwedd ar dlodi wrth i swyddi traddodiadol ddod yn fwy prin yn dilyn datblygiad deallusrwydd artiffisial (AI).
Dywedodd y Prif Weinidog bydd y cynllun peilot yn ceisio profi’r dadleuon hyn: “Os allwn ni ei wneud yma yng Nghymru, a chynllun peilot bydd e, allwn ni brofi… yr effaith mae’n gallu cael ar fywydau pobl.”
A yw’r cynllun wedi cael ei dreialu o’r blaen?
Mae cynlluniau tebyg i Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi cael eu treialu mewn sawl gwlad, gan gynnwys Canada, Iran, India a’r Unol Daleithiau.
Mae’r cynlluniau peilot yn amrywio. Yn y dalaith Americanaidd Alaska, mae pob dinesydd yn derbyn taliad blynyddol sydd yn amrywio ar sail pris olew.
Cyflwynodd Sbaen ‘Isafswm Incwm Cyffredinol’ llynedd, y cynllun cenedlaethol cyntaf o’r fath, ond mae’n anelu at gyrraedd 2% tlotaf y boblogaeth yn unig.
Pa gefnogaeth sydd i’r cynllun yng Nghymru?
Mae Incwm Sylfaenol Cyffredinol wedi dod yn syniad fwy blaenllaw ers y pandemig. Yn y gorffennol, dim ond y Blaid Werdd oedd wedi ymgyrchu’n gyson dros y cynllun.
Yn yr Etholiad Seneddol eleni, ymrwymodd y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru i dreialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn eu maniffestos.
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n treialu Incwm Sylfaenol Cyffredinol gan fod dros draean o aelodau’r Senedd yn ei gefnogi.
Dywedodd ef: “Mae yna 25 aelod Seneddol o wahanol bleidiau sydd wedi mynegi diddordeb ynddo. Rydw i eisiau ei wneud ar y sail hynny, a chynllunio’r cynllun peilot gorau posib.”
Dydy’r Ceidwadwyr Cymreig ddim yn cefnogi’r syniad. Dywed eu harweinydd Andrew RT Davies mai “creu mwy o swyddi a gwell swyddi dylai fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth - nid Incwm Sylfaenol Cyffredinol.”