Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd yn ystyried cynlluniau i ganiatáu cartrefi modur i barcio dros nos ger Llyn Padarn

11/02/2023
cartefi modur Gwynedd

Mae cynlluniau i ddarparu llefydd parcio i gartrefi modur dros nos ger Llyn Padarn yn Llanberis yn cael eu hystyried gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys creu naw lle parcio ym maes parcio Y Glyn ger y pentref.

Mae’r cyngor wedi dweud eu bod yn ystyried gwneud cais cynllunio llawn i ddatblygu "mannau stopio" yn y maes parcio dan sylw.

Mae'r safle, sydd yn eiddo i’r cyngor, yn boblogaidd gyda cherddwyr, nofwyr, defnyddwyr cartrefi modur a phobl sydd yn caiacio, yn enwedig dros fisoedd yr haf.

Derbyniodd Cyngor Gwynedd gais cynllunio ar 1 Chwefror, sy’n ddiwygiad ar gais cafodd ei gyflwyno ar ddiwedd 2022.

"Rhwystredigaeth"

Yn ôl y cynghorydd sir lleol, Kim Jones, mae hyn yn angenrheidiol o ganlyniad i "nifer llethol" o ymwelwyr.

Dywedodd y cynghorydd ym mis Hydref y llynedd hefyd bod nifer o geisiadau i'r cyngor yn galw am newidiadau oedd wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i "rwystredigaeth" gan bobl leol am gynnydd mewn traffig yn yr ardal a phroblemau fel llygredd a sbwriel.

Mae Cyngor Gwynedd wedi profi cynnydd mewn nifer y cartrefi modur sy’n parcio mewn mannau lle nad yw'n cael ei ganiatáu.

Fe wnaeth y cyngor ganiatáu creu mwy na 100 o lefydd parcio, er mwyn ceisio datrys y broblem.

"Ymchwil manwl"

Mae'r diwygiadau newydd wedi cael ei wneud gan Uned Economi a Chymuned Gyngor Gwynedd, a thrwy ymgynghorwyr Lamble Planning and Design.

Fel rhan o'r ymgynghoriad roedd gwaith ymchwil wedi cael ei wneud gyda'r gymuned.

O dan y cynnig newydd, fe fydd y llefydd parcio dros nos ddim ond yn gallu cael eu defnyddio am 48 awr a ni fydd cynnau tân, codi pebyll na defnyddio barbeciw yn cael ei ganiatáu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.