Gyrrwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda bws ysgol yn Sir Benfro
17/05/2021
Llandissilio
Mae gyrrwr car wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' yn Sir Benfro fore Llun.
Cafodd yr A478 ger Llandysilio ei chau ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws ac un cerbyd arall am o ddeutu 08:35.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi fod gyrrwr y cerbyd wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae perthnasau iddo wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Roedd y bws yn cludo disgyblion i Ysgol y Preseli, gyda 17 o ddisgyblion ysgol yn derbyn man anafiadau a dau ohonyn nhw'n cael eu cludo i'r ysbyty.
Fe gadarnhaodd Cyngor Sir Penfro fod y bws rhif 636 yn teithio rhwng Dinbych-y-pysgod a Chrymych.
Mae'r A478 ar gau wrth i'r ymchwiliad barhau.