Cosbi dyn am ffilmio'i hun yn gyrru 150mya i lawr yr M4
Cosbi dyn am ffilmio'i hun yn gyrru 150mya i lawr yr M4

Mae gyrrwr o Ben-y-bont ar Ogwr wedi ei ddedfrydu i 18 wythnos yn y carchar wedi ei ohirio ar ôl iddo uwchlwytho fideo o’i hun yn gyrru i lawr y draffordd ar gyflymder o 150mya.
Dywedodd yr heddlu fod Aaron Duffy, 29 oed, sydd bellach wedi ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, bron a cholli rheolaeth o’i gar Mercedes.
Mae’r fideo fer yn canolbwyntio ar sbidomedr y car cyn dangos ci bach yn gorwedd ar sedd y teithiwr.
Cafodd y fideo ei gyrru at GanBwyll gan aelod o’r cyhoedd a oedd wedi mynegi pryder.
Wrth wylio’r fideo roedd modd i'r heddlu weld lle ar yr M4 y digwyddodd y drosedd ac yna edrych ar y camerâu cylch cyfyng.
Dangosodd y fideo fod Duffy bron a bod wedi colli rheolaeth ar ei gar ar un cyfnod gan godi cwmwl o lwch a phridd.
Pleidiodd yn euog i yrru yn beryglus ac ymddangosodd o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 2 Chwefror.
“Mae mynd dros y trothwy cyflymder a defnyddio ffôn symudol ill dau yn cyfrannu at ddamweiniau car,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Roedd gwneud y ddau beth yr un pryd wedi rhoi pawb ar y ffordd mewn perygl ac fe allai fod wedi cael effaith torcalonnus ar deuluoedd.”