Netanyahu: 'Dim diwedd clir i'r trais rhwng Israel a Phalestiniaid'

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi dweud nad ydy e'n gweld diweddglo clir i'r trais rhwng ei wlad a Palestiniaid yn Gaza.
Dywed Netanyahu y gwnaiff hi "gymryd amser" i adfer "heddwch a thawelwch", a hyd yma mae wedi gwrthod dod i gytundeb dros dro â Phalestina i roi'r gorau i danio rocedi.
Mae'r Prif Weinidog yn wynebu pwysau cynyddol yn sgil adroddiadau gan awdurdodau Palestina fod rocedi Israelaidd wedi lladd o leiaf 197 o bobl, gan gynnwys 58 o blant.
Mae Hamas eisoes wedi dweud na fydden nhw'n rhoi'r gorau i danio rocedi nes bydd Israel yn stopio hefyd.