Newyddion S4C

'Dim digon o barch' at waith nyrsys

07/02/2023

'Dim digon o barch' at waith nyrsys

Does "dim digon o barch" at waith nyrsys, yn ôl nyrs sy'n credu bod angen gweithredu ar unwaith cyn y bydd hi'n rhy hwyr i'r gwasanaeth iechyd.

Yn dilyn sawl streic dros y misoedd diwethaf yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau, cyhoeddodd y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru eu bod yn canslo'r streiciau oedd fod i ddigwydd ddydd Llun a Mawrth yr wythnos hon ar ôl cynnig newydd gan Lywodraeth Cymru.

Ond mae Katherine Davies, sydd yn nyrs ac yn un o'r trefnwyr yn y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, yn teimlo nad oes modd i nyrsys wneud gwahaniaeth yn yr oes sydd ohoni.

"Ma' nyrsio wastad yn waith anodd, ond o'n i'n cael job satisfaction oherwydd o'n i'n gwybod bo' fi'n gwneud gwahaniaeth. 

"Erbyn hyn, dydyn ni ddim yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau," meddai. 

Dywedodd hefyd bod cyflawni gwaith nyrs yn yr oes hon yn dra-gwahanol i'r swydd yn y gorffennol. 

"Ma' gweld bo' chi'n gwneud gwahaniaeth yn hyfryd a does dim byd fel hwnna yn y byd.

"Ond nawr, byswn i'n dweud yr un peth oherwydd ma hwnna dal 'na, ond ma lot lot anoddach a bydd rhaid i fi rhybuddio nhw nawr bod safonau y byd nyrsio yn anodd, lot yn anoddach a jyst rhybuddio nhw bod lot o stress yn mynd 'da'r swydd oedd ddim yna o'r blaen."

'Parch'

Yn ôl Katherine, does dim digon o "barch" at waith nyrsys. 

"Ma' rhaid i nhw parchu beth 'dyn ni'n neud a dwi ddim yn meddwl bod digon o barch gyda un o'r llywodraethau o beth yw ein swyddi ni, a beth yw cyfrifoldeb sydd gennym ni. 

"Dyw talu ni £20 yr awr jyst fel rhif - i talu rhywun £20 yr awr i arbed bywydau, ydi hwnna yn lot o arian? Dyw e ddim yn lot o arian o gwbl, ddim o gwbl."

Mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar unwaith cyn y bydd hi'n rhy hwyr, meddai Katherine. 

"'Dyn ni ddim yn gallu gwneud dim byd amdano fe, does dim modd i'r nyrsys wella'r sefydliad ac mae angen i'r llywodraethau wneud rhywbeth a ma' angen neud e. 

"Bydd e'n warthus os y bydd y gwasanaeth iechyd yn mynd, ma' gwledydd dros y byd yn edrych ar ein system ni ac yn dweud pethe da amdano fe a 'dyn ni sy'n byw ynddo fe ac yn defnyddio fe ac yn gweithio ynddo fe yn gadael iddo farw."

'Deall cryfder teimladau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "deall cryfder teimladau ymhlith nyrsys sydd wedi eu harwain i weithredu'n ddiwydiannol ac fe fyddwn yn parhau i siarad gydag undebau llafur i sicrhau'r canlyniadau gorau posib i weithwyr o fewn y cyllid sydd gennym ar gael.

Yn sgil cynnig gwell o gyflog, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi atal eu streiciau yr wythnos hon, gan ganiatáu iddynt drafod y cynigion ymhellach gyda'u haelodau.

Hoffem ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u hewyllys da."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.