Newyddion S4C

Archesgob Cymru 'o blaid annibyniaeth' er mwyn 'datrys ein problemau'

Y Byd yn ei Le 26/01/2023

Archesgob Cymru 'o blaid annibyniaeth' er mwyn 'datrys ein problemau'

Mae Archesgob Cymru yn dweud ei fod e “o blaid annibyniaeth”, er mwyn “datrys” problemau’r wlad.

Mewn cyfweliad â rhaglen Y Byd yn ei Le am ymgyrch yr Eglwys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, dywedodd y Parchedicaf Andrew John fod y “sefyllfa ry’n ni wedi derbyn gan San Steffan ddim yn ddigonol."

Dywedodd yr Archesgob, sydd yn y swydd ers Rhagfyr 2021, mai dyna ei farn “cwbl bersonol” ond ei fod yn “deall y galwadau am annibyniaeth.

“O’r holl opsiynau sydd o’n blaen ni, beth yw’r opsiwn sydd â’r siawns fwyaf i ddatrys y problemau?”

Ychwanegodd fod y trafferthion o gwmpas Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd “yn bryder.”

Daw ei sylwadau wrth i un o gyn-Archesgobion Cymru, Dr Rowan Williams, gydweithio gyda’r Athro Laura McAllister ar Gomisiwn yn edrych ar ddyfodol Cymru. Un o’r opsiynau dan ystyriaeth gan y Comisiwn yw annibyniaeth. 

“Dwi’n deall pam fod pobl yn gofyn am annibyniaeth,” meddai.

Ym mis Tachwedd llynedd, arwyddodd yr Archesgob Andrew lythyr agored at y Prif Weinidog Rishi Sunak yn gofyn iddo lywodraethu gydag “integrity” er mwyn ail-adeiladu ffydd mewn democratiaeth ym Mhrydain wedi helyntion blaenorol Downing St. 

Ddeufis yn ddiweddarach, gyda Chadeirydd y Blaid Geidwadol yn wynebu cwestiynau dros daliadau treth a’r Dirprwy Brif Weinidog yn wynebu honiadau o fwlio, dywedodd fod sefyllfa Llywodraeth Prydain “yn bryder.” 

“Dwi’n siwr fod pobl sy’n gwylio’r newyddion yn gofyn, a ydyn ni wedi dechreuad newydd neu beidio?”

'Mwy a mwy o bobl yn dioddef' yng Nghymru heddiw

Llynedd, fe lansiodd yr Eglwys yng Nghymru ymgyrch Bwyd a Thanwydd i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw - gan alw’n arbennig ar archfarchnadoedd i gymryd camau i helpu’r mwyaf anghenus. 

Ond yn ol yr Archesgob, “sticking plaster” yw hynny. 

“Dyw e ddim yn datrys y broblem. Mae ’na fwy o fanciau bwyd ym Mhrydain na McDonalds!

“Dyw hi ddim yn dderbyniol ein bod ni’n gweld y math o fywyd lle mae mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn dioddef.”

“Dwi’n credu ei bod hi’n hen bryd i ni ofyn, cyn yr etholiad nesaf, pa fath o wlad ry’n ni am weld yn y dyfodol?”

Cafodd Andrew John ei apwyntio’n Archesgob yn 2021 ar ôl cyfnod fel Esgob Bangor.

Mae modd gwylio'r cyfweliad yn llawn ar Y Byd yn ei Le ar S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.