Newyddion S4C

Yr awdur Dr J Elwyn Hughes wedi marw

25/01/2023
J Elwyn Hughes / Llun Y Lolfa

Mae'r awdur, ieithydd a hanesydd Dr J Elwyn Hughes wedi marw.

Am 30 mlynedd, rhwng 1985 a 2015, bu'n olygydd ar gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd y Cyfansoddiadau cyntaf dan ei olygyddiaeth ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn 1985.

Mae'r gyfrol yn cael ei chyhoeddi'n flynyddol ar ddydd Gwener olaf wythnos yr Eisteddfod.

Fe wnaeth ymddeol o'i rôl er mwyn gallu canolbwyntio ar ysgrifennu am hanes Dyffryn Ogwen, sef ei ardal enedigol.

Cafodd ei eni ym Methesda ac yn ddiweddarach fe ymgartrefodd ym Methel.

Roedd yn gyn-brifathro ar Ysgol Dyffryn Ogwen, lle bu hefyd yn ddisgybl.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1993, cafodd ei anrhydeddu gyda gwisg wen yn yr Orsedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.

'Craff'

Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Dr Hughes ei fod yn "ŵr a thad annwyl, gofalgar a chymwynasgar".

"Roedd ganddo angerdd at y Gymraeg, hanes lleol a Dyffryn Ogwen," medden nhw.

"Cyffyrddodd â nifer o fywydau ar hyd ei oes, a bydd yn gadael bwlch mawr i ni fel teulu ar ei ôl." 

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: “Mae colli Dr J Elwyn Hughes yn ergyd drom i ni yma yng Nghymru.  Yn ddyn iaith a gramadeg o’i gorun i’w sawdl, roedd o hefyd yn olygydd heb ei ail, a bu’n gyfrifol am gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer.

“Roedd ei ofal a’i lygad craff a manwl yn amhrisiadwy wrth dynnu cyfrol mor swmpus at ei gilydd mewn cyfnod mor fyr, ac roedd Elwyn bob amser yn barod i helpu a pharod am sgwrs wrth i’r gyfrol ddod ynghyd.

"Er iddo ymddeol ers rhai blynyddoedd, mae hon yn golled drom i’r Eisteddfod ac yn golled fwy i’n hiaith.  Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at y teulu heddiw ac yn cofio’n annwyl am Elwyn a’i waith.”

Llun: Y Lolfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.