Wrecsam ar frig y Gynghrair Genedlaethol wedi buddugoliaeth yn Gateshead
Mae Wrecsam wedi codi i frig y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus o 0-3 yn erbyn Gateshead nos Fawrth.
Roedd goliau gan Tom O'Connor, Ollie Palmer a Paul Mullin yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth a lle ar frig y gynghrair.
Mae Wrecsam bellach driphwynt yn glir ar y brig gyda 65 pwynt, a Notts County yn ail gyda 62 o bwyntiau.
Gobaith cefnowyr tîm Phil Parkinson fydd gweld y clwb yn parhau gyda'u rhediad a chynyddu'r fantais ar frig y gynghrair, gan mai dim ond un tîm sydd yn cael dyrchafiad i Adran Dau heb orfod chwarae yn y gemau ail-gyfle.
Bydd cefnogwyr Wrecsam yn hapus iawn gyda'r canlyniad, ac fe fydd yn hwb cyn y gêm yn erbyn Sheffield United yng Nghwpan yr FA y penwythnos hwn.
Fe wnaeth y clwb achosi sioc enfawr yn y rownd ddiwethaf wrth iddynt guro Coventry sydd yn y Bencampwriaeth.