Newyddion S4C

Ghislaine Maxwell yn 'difaru cyfarfod Jeffrey Epstein'

24/01/2023
Ghislaine Maxwell

Mae Ghislaine Maxwell wedi dweud ei bod hi'n difaru cyfarfod Jeffrey Epstein. 

Cafodd Ms Maxwell, 61, ddedfryd o garchar am 20 mlynedd ar ôl cael ei chanfod yn euog o fasnachu ar gyfer rhyw. Bydd yn rhaid iddi hefyd dreulio pum mlynedd o dan oruchwyliaeth pan y caiff ei rhyddhau. 

Trefnodd Maxwell, sy'n 60 oed, fod merched ifanc yn ymweld â'i chyn bartner, y pidoffeil a'r biliwnydd Jeffrey Epstein, yn ystod y 90au a blynyddoedd cynharaf degawd 2000.

Mewn cyfweliad nos Lun, dywedodd hefyd ei bod hi'n credu fod Mr Epstein wedi cael ei lofruddio. 

Cafodd Mr Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell yn y carchar yn 2019 tra'n aros am achos llys ar gyhuddiadau o fasnachu rhyw.

Ychwanegodd nad oedd hi'n gwybod fod Mr Epstein "mor ddrwg" gan nad oedd "unrhyw reswm i ddychmygu ei fod yn rywun o ddiddordeb i bobl."

Dywedodd hefyd fod y llun enwog yn dangos y Tywysog Andrew wrth ymyl Virginia Giuffre yn ffug. 

Ym mis Chwefror y llynedd, fe wnaeth y tywysog gytuno ar setliad i achos cyfreithiol sifil yn ei erbyn gan Virginia Giuffre.

Roedd Ms Giuffre wedi ei gyhuddo o ymosod arni'n rhywiol ar dri achlysur pan roedd hi'n 17 oed. 

Wrth gyfeirio at y llun, dywedodd Ms Maxwell: "Mae'n ffug. Dwi ddim yn credu ei fod yn lun iawn a dwi'n siwr o hynny. Does yna erioed un gwreiddiol wedi bod. Does dim llun, dim ond llungopi ohono dwi erioed wedi'i weld."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.