Newyddion S4C

Plaid Cymru yn cynnig 'cynllun ymarferol' i ymateb i 'argyfwng' y GIG

24/01/2023
Menyw mewn ysbyty

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen "cynllun ymarferol" er mwyn mynd i'r afael â'r "argyfwng" yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae'r blaid wedi amlinellu cynllun pum-pwynt ddydd Mawrth sydd medden nhw yn cynnig "atebion uniongyrchol a thymor hir".

Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth AS, fod y cynllun wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â chynrychiolwyr ar ran y sector iechyd.

Bydd y cynllun yn destun trafodaeth ar lawr y Senedd ddydd Mercher. 

Mae Plaid Cymru wedi cytuno i gefnogi'r Llywodraeth Lafur ar 46 o bolisïau penodol - ond nid yw iechyd wedi ei gynnwys.

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau tâl teg i weithwyr y GIG, cadw'r gweithlu yn y gwasanaeth iechyd, ehangu'r pwyslais ar fesurau i atal iechyd pobl rhag gwaethygu, mabwysiadu symudiad di-dor rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol a chreu gwasanaeth sy'n "addas ar gyfer y dyfodol".

Dywedodd Adam Price AS, Arweinydd Plaid Cymru: “Mae yna argyfwng iechyd yng Nghymru lle mae angen meddwl o’r newydd – argyfwng iechyd na all Llywodraeth Cymru gyfaddef ei fod yn bodoli yn y lle cyntaf.

"Ond pan fo amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros adrannau brys yn uwch nag erioed, a gweithwyr yn mynychu’r llinell biced dros gyflog annheg ac amodau gwaith anniogel, yna mae’n rhaid gofyn y cwestiwn: Os nad yw hwn yn argyfwng, yna pa mor waeth y maent yn disgwyl iddo fynd?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r GIG yn delio â thua 2 filiwn o gysylltiadau bob mis yng Nghymru. Mae hwn yn berfformiad anhygoel mewn poblogaeth o 3.1 miliwn o bobl. Mae ein staff GIG yn parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i filoedd o bobl bob dydd.

“Rydym yn cynllunio ar gyfer y gaeaf drwy gydol y flwyddyn ac eleni rydym wedi buddsoddi mewn staff ambiwlans newydd, gan drawsnewid adrannau brys a gwella’r llif drwy ysbytai, ac rydym wedi parhau i roi camau gweithredu ar waith i ymateb i’r pwysau.

“Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gyhoeddi y bydd bron i 400 yn fwy o leoedd hyfforddi nyrsys yn cael eu creu yng Nghymru diolch i gynnydd o 8% yng nghyllideb hyfforddi GIG Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.