Newyddion S4C

Carcharu dyn am achosi marwolaeth beiciwr modur ger Betws y Coed

23/01/2023
Godfrey

Mae dyn wedi ei garcharu am 16 mis ar ôl achosi marwolaeth gyrrwr beic modur ar ffordd yr A5 ger Betws y Coed yn 2021.

Roedd Jonathon Godfree, 63 oed o Liphook yn Hampshire, wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn gwrandawiad blaenorol.

Bu farw Jason Bown, 52 oed o Sir Derby yn y gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ar 7 Medi 2021.

Fe ddioddefodd Godfree anafiadau difrifol ond bu farw Mr Bown yn y fan a'r lle.

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: “Mae teulu wedi eu dryllio'n llwyr ar ôl colli mab, brawd a nai annwyl iawn ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg anodd yma.

“Roedd hwn yn wrthdrawiad y gellid bod wedi ei osgoi’n gyfan gwbl lle'r oedd Godfree wedi ceisio pasio dau gerbyd ar dro. 

“Mae hwn yn achos trasig sydd unwaith eto’n dangos pa mor hanfodol bwysig yw hi i feicwyr modur ganolbwyntio eu sylw'n llwyr wrth reidio ar y ffyrdd.”

Cafodd Jonathon Godfree ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac wyth mis.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.