Ymchwilio i 'farwolaeth sydyn ac anesboniadwy' dyn yng nghanol Caerdydd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i 'farwolaeth sydyn ac anesboniadwy' dyn 39 yng nghanol Caerdydd dros y penwythnos.
Er nad yw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, y gred yw ei fod yn 39 oed o ardal Casnewydd.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yn ardal Plas Windsor yng nghanol y brifddinas nos Sul.
Mae ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal ac mae teulu agos y dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.
Roedd swyddogion yr heddlu i'w gweld yn yr ardal ddydd Llun, ac mae strydoedd cyfagos ar gau i'r cyhoedd.
Dywedodd yr uwcharologydd Michelle Conquer fod yr heddlu yn ymwybodol fod yna "sioc a thristwch yn y gymuned leol ac yn ehangach yn dilyn marwolaeth sydyn ac anesboniadwy dyn yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Sul.
"Tra bod yr ymchwiliad yn parhau, mae ein Tîm Plismona Bro yn parhau i ddangos presenoldeb heddlu gweladwy yng nghanol y ddinas."