Newyddion S4C

Galw am ddiswyddo Nadhim Zahawi dros honiadau treth

21/01/2023
Nadhim Zahawi

Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar y Prif Weinidog Rishi Sunak i ddiswyddo Nadhim Zahawi fel cadeirydd y Blaid Geidwadol yn dilyn adroddiadau ei fod wedi talu dirwy fel rhan o setliad treth o filiynau o bunnoedd.

Mae’r cyn-ganghellor wedi bod o dan bwysau dros honiadau ei fod wedi ceisio osgoi treth ac mae e wedi gorfod ei dalu nôl.

Dywedodd dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Angela Rayner fod sefyllfa Mr Zahawi yn “anghynaladwy” ac mae’n rhaid i’r Prif Weinidog ei ddiswyddo.

Dywedodd y Dirprwy Prif Weinidog Dominic Raab fod Mr Zahawi wedi bod yn “dryloyw iawn” am y mater.  

Dywedodd: “Mae wedi bod yn glir fod ei dreth sy’n daladwy wedi ei dalu’n llawn. Os oes angen iddo ateb unrhyw gwestiynau pellach, rwy’n siwr y bydd yn gwneud hynny.”

'Diofal'

Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Mr Zahawi fod y camsyniad dros ei dreth yn “ddiofal ac nid yn fwriadol”.

Dywedodd Mr Zahawi fod ei dad wedi cymryd cyfranddaliadau sefydlu yng nghwmni YouGov a bod GThEM yn hwyrach “wedi anghytuno ynglŷn â’r dyraniad” a wnaeth arwain iddo “setlo’r mater a thalu yr hyn oedd yn ddyledus”.

“Fe ddaethon nhw i benderfyniad fod hyn yn gamsyniad diofal ac nid yn fwriadol,” meddai.

“Er mwyn i mi ganolbwyntio ar fy mywyd fel gwas sifil, fe benderfynais i setlo’r mater a thalu yr hyn oedd yn ddyledus, a oedd y peth iawn i wneud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.