Newyddion S4C

Yr Heddlu yn rhoi dirwy i'r Prif Weinidog

20/01/2023
Rishi Sunak Prif Weinidog

Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cael dirwy am beidio â gwisgo gwregys diogelwch mewn car oedd yn symud wrth ffilmio fideo ar gyfer y  cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn eu bod wedi rhoi cynnig amodol o gosb benodedig i ddyn 42 oed yn Llundain.

Dywedodd Rhif 10 fod Mr Sunak "yn derbyn yn llwyr mai camgymeriad oedd hwn ac mae wedi ymddiheuro", gan ychwanegu y byddai'n talu'r ddirwy.

Cafodd Mr Sunak ei weld heb wregys diogelwch mewn fideo Instagram a ffilmiodd i hyrwyddo cyllid Codi’r Gwastad yn ystod ymweliad â Gogledd Lloegr.

Dywedodd Heddlu Sir Gaerhirfryn: “Mae’n debyg eich bod yn ymwybodol bod fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos unigolyn yn methu â gwisgo gwregys diogelwch tra’n deithiwr mewn car yn symud yn Sir Gaerhirfryn.

“Ar ôl ymchwilio i’r mater hwn, rydyn ni heddiw wedi rhoi cynnig amodol o gosb benodedig i ddyn 42 oed o Lundain.”

Gall teithwyr sy'n cael eu dal yn methu â gwisgo gwregys diogelwch yn cael dirwy o £100.

Gall hyn gynyddu i £500 os aiff yr achos i'r llys.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.