Newyddion S4C

Mark Drakeford yn addo ‘datrys’ argyfwng tai yng nghefn gwlad

Newyddion S4C 15/05/2021

Mark Drakeford yn addo ‘datrys’ argyfwng tai yng nghefn gwlad

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C y bydd y llywodraeth yn gweithredu er mwyn ceisio datrys yr argyfwng tai yng nghefn gwlad.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cydnabod fod hi’n gynyddol anodd i bobl brynu tai mewn ardaloedd gwledig.

Daw ei sylwadau wedi i Gyngor Tref Nefyn ysgrifennu llythyr yn erfyn arno i flaenoriaethu’r mater er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r broblem.

Yn bwnc llosg mewn ardaloedd fel Pen Llyn, lle mae bwthyn bach yn ardal Uwchmynydd, Aberdaron yn paratoi i fynd ar ocsiwn yn Lerpwl am bris o £500,000.

Dywedodd Rhys Tudur, Cadeirydd Cyngor Tref Nefyn: “Da ni’ mawr obeithio y bydd o’n rhoi blaenoriaeth i gymunedau sydd dan warchae gan fod 'na ormodedd o ail gartrefi yn cael eu prynu.

“Da ni’n gobeithio y bydd o’n gweithredu yn ôl teitl ei swydd, yn gweini er lles cymunedau ac yn blaenoriaethu pobl leol.”

Dywedodd y Prif Weinidog, sydd eisoes wedi cwrdd â Chyngor Tref Nefyn i drafod y mater, ei fod wedi’i argyhoeddi i wneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Da ni am weithio gyda phobl eraill i drio eu helpu nhw, i drio gwarchod cymunedau lleol lle mae Cymraeg yn iaith gyntaf i’r bobl yma,” meddai.

Mae’r Aelod o’r Senedd Plaid Cymru newydd dros Ddwyfor Meirionnydd wedi dweud fod yn “rhaid ni weld y llywodraeth yn gweithredu rŵan”. 

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS: “Pethe fatha cynyddu treth trafodion tir wrth werthu tŷ, sicrhau fod 'na gap ar faint o dai gwyliau sy mewn unrhyw un gymuned ac yn y blaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.