Halifax yn cyhoeddi eu bod yn cau eu cangen ym Mangor
Mae cymdeithas adeiladu'r Halifax wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu cangen ar y stryd fawr ym Mangor.
Bydd y gangen yn cau ar 17 Ebrill.
Dywed yr Halifax eu bod wedi gweld llai o bobl yn defnyddio eu canghennau yn ystod blynyddoedd diweddar wrth i fwy o bobl droi at fancio ar-lein.
Maen nhw'n dweud eu bod angen sicrhau fod eu canghennau "lle mae cwsmeriaid eu hangen ac yn eu defnyddio fwyaf".
Bydd yn rhaid i gwsmeriaid deithio i Landudno i ddefnyddio'r gangen Halifax agosaf, neu am gyfnod byr fe fydd Bancwr Cymunedol yn ymweld â'r ardal i gynnig cefnogaeth a chyngor.
Grŵp Bancio Lloyds sy'n berchen ar Halifax, ac maen nhw wedi cyhoeddi y bydd 18 safle Halifax a 22 cangen Lloyds yn cau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Mae hyn yn ychwanegol i 64 o gyhoeddiadau ers dechrau’r flwyddyn am fanciau eraill fydd yn cau, gyda banciau Barclays a TSB yn dweud y byddan nhw'n cau 24 safle rhyngddynt.