Cymru i gyflwyno cynllun talu ernes ar boteli a chaniau erbyn 2025
Bydd Cymru yn cyflwyno cynllun erbyn 2025 a fydd yn annog pobl i ddychwelyd potel neu gan drwy dalu ernes.
Bydd yr ernes yn cael ei dalu yn ôl i'r cwsmer os ydyn nhw'n dychwelyd y botel neu'r can.
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cadarnhau fod Cymru yn gweithio ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon i sefydlu'r cynllun.
Byddai hynny'n golygu bod modd prynu diod mewn potel neu gan o unrhyw ran o Gymru a'i ddychwelyd i unrhyw ran o Loegr neu Ogledd Iwerddon.
Mae'r Alban yn bwriadu sefydlu cynllun ei hun a fydd yn dechrau yn ddiweddarach eleni.
Yn ôl y llywodraeth, mae tua 14 biliwn o boteli plastig a naw biliwn o ganiau yn cael eu gwaredu bob blwyddyn yn y DU.
Gobaith y llywodraeth yw y bydd cyfraddau ailgylchu yn gwella o ganlyniad i'r cynllun newydd gan fod cyfraddau sy'n uwch na 90% yn Yr Almaen, Y Ffindir a Norwy lle mae cynllun tebyg eisoes ar waith.
Bydd unrhyw boteli neu ganiau sydd wedi eu gwneud o blastig polyethylene terephthalate (PET), dur, gwydr neu alwminiwm yn rhan o'r cynllun.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Dyma gam arall ymlaen wrth i Gymru ddatblygu’n economi fwy cylchol lle mae llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu, a lle caiff adnoddau eu hailddefnyddio a'u hailgylchu yn hytrach na’u bod yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.
"Mae ymgynghoriad wedi dangos cefnogaeth gyhoeddus enfawr i gyflwyno’r cynllun, ac rydyn ni'n gwybod bod pobl yng Nghymru eisiau cyfrannu at wella ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes ar y blaen.
"Cymru yw'r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ond rydyn ni'n gwybod y gallwn ni a bod angen i ni fynd ymhellach i daclo'r gwastraff sy'n effeithio ar ein dinasoedd a'n trefi ac sy'n difetha ein cefn gwlad ac i leihau ein hallyriadau."