Newyddion S4C

Amseroedd aros ambiwlansys Cymru 'yr hiraf ar gofnod'

19/01/2023
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae amseroedd ambiwlansys Cymru ar gyfer yr achosion mwyaf brys wedi cyrraedd eu hiraf ar gofnod, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

39.5% o'r galwadau coch - y rhai mwyaf argyfyngus - welodd ambiwlans yn cyrraedd y claf o fewn targed y llywodraeth o wyth munud ym mis Rhagfyr.

Daw'r ystadegau diweddaraf wrth i weithwyr ambiwlans fynd ar streic ddydd Iau fel rhan o anghydfod dros gyflogau a phwysau gwaith.

Dywed undeb Unite fod ei aelodau yn streicio er mwyn rhwystro GIG Cymru rhag "chwalu".

Bwrdd Iechyd Caerdydd a Bro Morgannwg welodd yr ymateb cyflymaf i'r galwadau mwyaf brys, gyda 45.3% o ambiwlansys yn cyrraedd o fewn wyth munud.

Roedd y ganran honno ar ei hisaf ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ym mis Rhagfyr, gyda 34.8% o alwadau coch yn derbyn ymateb brys o fewn wyth munud.

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r ffigyrau diweddaraf gan awgrymu fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cyrraedd pen ei dennyn.

Mae Russell George, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod y ffigyrau'n dangos bod "diogelwch cleifion yn y fantol" a bod "morâl staff wedi ei chwalu'n llwyr".

Ychwanegodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, nad oedd GIG Cymru "ar fin torri - mae'n gwbl orlawn". 

Mae'r Llywodraeth yn dweud fod mis Rhagfyr wedi bod yn "fis eithriadol" i'r gwasanaeth iechyd a bod "galw mawr" ar wasanaeth ambiwlans ac adrannau brys.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch lle roedd bywyd yn y fantol eu gwneud y mis hwn.

"Er bod cyfran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yr isaf ar gofnod, ym mis Rhagfyr, cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud.

"O heddiw ymlaen, bydd 75 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol ar waith i gefnogi ymateb amserol gan y gwasanaeth ambiwlans.

“Er ein bod ni’n cydnabod nad yw gofal brys yn perfformio ar y lefel y byddem yn ei disgwyl, rydym yn ysgogi gwelliannau i'r system."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.