Newyddion S4C

Parhau gyda chynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn Sir Fynwy

19/01/2023
Plant yn darllen

Dim ond tri o blant sydd wedi cofrestru ar gyfer ysgol wennol a allai osod y seiliau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn Sir Fynwy.

Serch hynny, mewn cyfarfod yng Nghyngor Sir Fynwy ddydd Mercher, cytunodd y cabinet y byddai yn parhau ag ymgynghoriad ynghylch a ddylai sefydlu ysgol Gymraeg ar safle ysgol Overmonnow, o fis Medi 2024.

Bydd ysgol wennol yn agor ar y safle yn Medi 2023 er mwyn gosod y seiliau ar ei gyfer, gyda'r gost o £2,115,699 wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ond daeth cadarnhad yn ystod y cyfarfod mai dim ond tri disgybl sydd wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth newydd yn Overmonnow ar gyfer Medi 2023 cyn y dyddiad cau ar 11 Ionawr. 

Mae dau blentyn wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth derbyn ac un ar gyfer y dosbarth meithrin.

Tra bydd y “dosbarth lloeren” sy’n agor ym mis Medi eleni o dan reolaeth prifathro Ysgol y Ffin, sydd 19 milltir i ffwrdd yng Nghil-y-Coed, bydd yr ymgynghoriad yn cynnig sefydlu ffrwd cynradd ar gyfer plant tair i 11 oed a fyddai â’i phennaeth a’i chorff llywodraethu ei hun.

Byddai hefyd wedi'i leoli ar safle Overmonnow, lle bydd yr ysgol cyfrwng Saesneg yn parhau ar agor.

'Cwestiwn gwahanol'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ar y cyngor, y Cynghorydd Richard John, sy'n cynrychioli Llanfihangel Troddi a Thrylech y tu allan i Drefynwy, ei fod yn cefnogi rhoi dewis cyfrwng Saesneg neu Gymraeg i rieni lleol.

“Nid oes ganddyn nhw hynny mewn gwirionedd ar hyn o bryd oherwydd amseroedd teithio (i’r Fenni),” meddai.

Gofynnodd hefyd a oedd y cyngor wedi ystyried “effaith” cyfrwng Cymraeg newydd ar ysgolion cyfrwng Saesneg presennol yn yr ardal lle mae niferoedd disgyblion yn gostwng a lle nad oes disgwyl iddynt godi.

Dywedodd y Cynghorydd Groucutt, sy’n cynrychioli ward Lansdown yn Y Fenni, nad oedd wedi cael y cyfle i ymchwilio i’r hyn a oedd yn “gwestiwn hollol wahanol” i ymgynghoriad ar sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd ei bod yn “gywir” bod disgwyl i boblogaeth yr ardal leihau a dywedodd: “Yn ddi-os, bydd ôl-effeithiau i addysg ond nid ydyn nhw’n gysylltiedig â’r papur hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.