Siom yn Wrecsam ar ôl methu derbyn buddsoddiad i'r Cae Ras
Mae arweinydd Cyngor Wrecsam wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” wedi i Glwb Pêl-droed y dref fethu allan ar fuddsoddiad o'r Gronfa Codi'r Gwastad.
Cafodd y gronfa gan Lywodraeth San Steffan ei sefydlu yn 2020, gyda'r bwriad o wario £4.8 biliwn ar brosiectau ar draws y DU.
Ond fe gafodd cais Cyngor Wrecsam ar gyfer arian i adnewyddu stad y Kop yn y Cae Ras ei wrthod.
Mae gwaith wedi dechrau ar ddymchwel y Kop, gyda chynlluniau wedi'u cymeradwyo i adeiladu eisteddle ar gyfer 5,500 o gefnogwyr yn ei lle.
Fe fydd y clwb yn ariannu rhan o'r prosiect, ond cafodd cais ei gwneud ar gyfer buddsoddiad ychwanegol o'r Gronfa Codi'r Gwastad.
Dywedodd CPD Wrecsam ei fod yn "siomedig iawn" bod y cais yma wedi'i wrthod.
Er hyn, mae'r clwb wedi dweud ei fydd yn chwilio am ffynonellau arall o fuddsoddiad er mwyn bwrw ymlaen gyda'r prosiect.
"Nawr yw'r amser i weithredu Cynllun B ac er bod yna rywfaint o ansicrwydd yn y byr dymor, mae'r weledigaeth hir dymor yn edrych yn bositif," meddai Shaun Harvey, cynghorydd strategol ar gyfer bwrdd y clwb.
Fe wnaeth arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, hefyd ddweud ei fod yn "hynod o siomedig" bod y cais wedi'i wrthod.
"Ni fyddwn yn rhoi'r gorau i'r cynlluniau uchelgeisiol yma ac fe fyddwn yn parhau i chwilio am ffynonellau arall o fuddsoddiad er mwyn ariannu'r prosiect."
‘Anniogel’
Wrth i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi rownd ddiweddaraf y buddsoddiad, mae sawl cais blaenllaw yng Nghymru wedi'u gwrthod.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd wneud cais ar gyfer £40 miliwn o'r gronfa yn ystod yr haf y llynedd er mwyn adeiladu ffordd osgoi Llanbedr.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru wneud tro pedol ar y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y ffordd osgoi o gwmpas y pentref ym mis Tachwedd 2021.
Fe wnaeth y llywodraeth gyhoeddi yr oedd ei holl gynlluniau ffyrdd wedi'u hoedi yn sgil adolygiad o'u gwerth amgylcheddol.
Er hyn, mae pobl leol wedi galw o hyd am ddatrysiad i broblemau tagfeydd Llanbedr, gyda nifer yn dweud ei fod yn "anniogel" i gerdded trwy'r pentref.
Yn sgil y galwadau gan drigolion lleol, fe wnaeth Cyngor Gwynedd droi at San Steffan ar gyfer buddsoddiad i ariannu'r prosiect.
Ond fe ddaeth cadarnhad ddydd Mercher yr oedd cais Cyngor Gwynedd ar gyfer yr arian wedi'i wrthod.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Cyngor Gwynedd am ymateb.