Cau maes awyr Manceinion i awyrennau o achos eira
19/01/2023
Mae Maes Awyr Manceinion wedi cau ei ddwy lain glanio dros dro oherwydd eira trwm.
Dywedodd datganiad gan swyddogion ar Twitter: “Yn dilyn cyfnod o eira trwm, rydyn ni wedi cau’r ddwy lain glanio dros dro.
“Iechyd a diogelwch fydd ein prif flaenoriaeth bob amser a bydd gweithrediadau’n ailddechrau cyn gynted â phosibl.
“Cynghorir teithwyr i gysylltu â’u cwmni hedfan i gael y wybodaeth hedfan fwyaf diweddar.”
ℹ️ Our runways remain closed as we continue to clear the airfield.
— Manchester Airport (@manairport) January 19, 2023
Further updates will be provided in due course. pic.twitter.com/naMnV1emD9
Llun: Maes Awyr Manceinion