Newyddion S4C

Actor o Brydain ar goll mewn mynyddoedd yn ne California

19/01/2023
Julian Sands / cc

Mae cerddwr sydd ar goll ym mynyddoedd San Gabriel yn ne California yn yr UDA wedi’i enwi fel yr actor Prydeinig Julian Sands.

Roedd adroddiadau bod yr actor 65 oed ar goll yn ardal Baldy Bowl nos Wener, ar ôl teithio yno i fynydda.

Dros y penwythnos bu timau achub mynydd a'r gwasanaethau brys yn chwilio amdano.

Fe ddaeth Mr Sands i amlygrwydd trwy ffilmiau fel A Room With A View, Leaving Las Vegas a Warlock, yn ogystal ag ymddangos mewn cyfresi teledu gan gynnwys 24, Smallville a Banshee.

Mae'r heddlu'n lleol wedi annog cerddwyr i “feddwl ddwywaith a gwrando ar rybuddion” yn dilyn tywydd peryglus yn y rhanbarth.

Dywedodd y llu fod eu timau chwilio ac achub wedi ymateb i 14 galwad ar Fynydd Baldy a'r cyffiniau dros y pedair wythnos ddiwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.