Llywodraeth Cymru'n cynyddu cymorth i fyfyrwyr o Gymru
Llywodraeth Cymru'n cynyddu cymorth i fyfyrwyr o Gymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi byddant yn cynyddu cymorth cynhaliaeth myfyrwyr o 9.4% yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Gall myfyriwr amser llawn arferol o Gymru hawlio £10,710 mewn grantiau a benthyciadau cynhaliaeth, fydd yn codi i £11,720 o ganlyniad i'r cynnydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr addysg uwch amser llawn a rhan amser o Gymru, a ddechreuodd gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Ychwanegodd y llywodraeth bod "lefel uchaf o gymorth grant yn cael ei roi i'r myfyrwyr hynny sydd fwyaf mewn angen a bod pecyn sylweddol o gymorth ar gael i fyfyrwyr rhan-amser, gan roi cyfle i fyfyrwyr o bob cefndir astudio'n rhan-amser."
Dywedodd Orla Tarn, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr (NUS) Cymru bod angen i wledydd eraill y DU ddilyn Llywodraeth Cymru a chynyddu'r cymorth sydd ar gael.
"Dwi wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis i gefnogi eu myfyrwyr a symud oddi wrth y codiad truenus o 2.8% o gymorth cynhaliaeth myfyrwyr sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr prifysgol yn Lloegr. Dylai gwledydd eraill y DU ddilyn camau Cymru cyn gynted â phosib.
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn dangos y fath o feddwl hirdymor bydd yn gwneud ein system addysg a bywyd myfyrwyr yn fwy cynaliadwy."
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Ni ddylai costau byw fyth fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol. Bydd y cynnydd hwn yn y cymorth yn sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn gallu cael mynediad i addysg uwch.
"Er gwaethaf pwysau parhaus ar y gyllideb, rwyf wedi sicrhau bod gwerth y cymorth yn cynyddu ar yr adeg hon o bwysau eithriadol ar gostau byw."