Newyddion S4C

Gweithwyr ambiwlans yn streicio eto yng Nghymru

19/01/2023
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Bydd gweithwyr ambiwlans yng Nghymru yn streicio eto ddydd Mercher mewn anghydfod dros gyflogau ac amodau gwaith.

Bydd dros 1000 o aelodau'r undeb Unite yn streicio am 24 awr, sef y cyntaf o ddau ddiwrnod o streicio, gyda'r ail ar 23 Ionawr.

Pleidleisiodd 88% o aelodau'r undeb o blaid mynd ar streic, ac mae'r undeb wedi cytuno i barhau gyda darparu cerbydau ambiwlans i achosion yn ystod y dydd pan fydd bywydau mewn perygl.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham mai'r unig ffordd i leihau'r pwysau ar y Gwasnaeth Iechyd ydy trwy godiad cyflog.

"Mae Unite 100% yn cefnogi ein gweithwyr ambiwlans yng Nghymru sydd yn streicio i achub ein GIG. Mae'r gweithwyr yma ar flaen y gad bob dydd, yn achub bywydau ac yn gwneud bob dim y maen nhw'n gallu i ddiogelu’r cyhoedd.

"Yn anffodus mae argyfwng staffio'r GIG yn gwneud eu swydd yn fwyfwy anodd, maen nhw'n gweld sut mae ein GIG yn cwympo. Codiad cyflog gweddus ydy'r unig ffordd i wella recriwtio staff i'r GIG a lleihau'r pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau ambiwlans.

"Dyw'r cynnig diweddar o un taliad gan Lywodraeth Cymru ddim yn ddigon i'n haelodau."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros iechyd, Russell George, bod angen i'r anghydfod gael ei ddatrys:

"Mae'r pwysau ar staff y GIG yn anferthool a dwi'n gwerthfawrogi bod yr anghydfod ddim yn un hawdd i'w ddatrys, ond rydym angen i Lywodraeth Llafur ym Mae Caerdydd ddechrau trafod yn ddifrifol yn hytrach na rhoi'r bai ar weinidogion y DU am fethu yn eu cyfrifoldebau - rhywbeth mae undebau wedi ei leisio.

"Ni ddylai cleifion ddioddef gyda'n gwasanaethau cyhoeddus yn sefyll yn llonydd, a ni ddylid disgwyl i staff orflino o achos bod gweinidogion Llafur methu bod yn gyfrifol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: "Rydym yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd, undebau a phartneriaid i sicrhau bod gofal sy’n achub a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod y gweithredu diwydiannol, bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a bod aflonyddwch yn cael ei leihau.

"Ond mae'n hanfodol i bob un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol ac ein bod yn ystyried yn ofalus pa weithgareddau rydym yn cymryd rhan ynddynt.

"Dylai unrhyw un sydd mewn perygl uniongyrchol ffonio 999 ac rydym yn annog pobl i ddefnyddio gwefan 111 GIG Cymru i gael cyngor iechyd lle nad oes bygythiad i fywyd, neu siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu ymweld ag uned fân anafiadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.