Comisiynydd y Gymraeg: ‘Angen mwy o staff i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg'
Comisiynydd y Gymraeg: ‘Angen mwy o staff i ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg'
Mae Comisiynydd newydd y Gymraeg wedi dweud bod angen mwy o staff sydd yn medru darparu gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynyddu'r nifer o bobl sy'n siarad yr iaith.
Cafodd Efa Gruffudd Jones ei phenodi fel y Comisiynydd newydd ym mis Hydref y llynedd, gan olynu'r diweddar Aled Roberts.
Wrth ddechrau yn ei rôl newydd ar ddechrau'r mis, mae Ms Gruffudd Jones yn wynebu cwestiynau dros gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn sgil ystadegau'r Cyfrifiad 2021.
Yn ôl y Cyfrifiad, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2011, gan ddisgyn o 19% o'r boblogaeth i 17.8% - lleihad o 24,000.
O fewn hyn, roedd gostyngiad sylweddol yn y nifer o bobl rhwng tair a 15 oed sydd yn gallu siarad Cymraeg.
Mae'r ganran o siaradwyr Cymraeg o fewn y grŵp oedran hwn wedi gostwng o 40.3% yn 2011 i 34.3% yn 2021 - y gostyngiad mwyaf o unrhyw grŵp oedran.
Yn sgil yr ystadegau, dywedodd Efa Gruffudd Jones wrth Newyddion S4C fod rhaid cynyddu'r cyfleoedd sydd i bobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg.
Yn ôl Ms Gruffudd Jones, mae rhaid cynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwneud hyn.
“Blaenoriaeth ni yn sicr yw sicrhau bod y rheiny sy’n gallu siarad Cymraeg yn cael y cyfle i wneud hynny," meddai.
“Enghraifft wych o hyn yw’r angen cynyddol sydd am staff sy’n siarad Cymraeg i ddarparu’r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus.
“Mae hyn yn sicr yn rhywbeth ni’n awyddus i edrych ar i sicrhau bod cyfleoedd gan blant a phobl ifanc sydd yn dysgu Cymraeg i ddefnyddio’u Cymraeg.”
Er i'r ffigyrau ddangos gostyngiad yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, mae Ms Gruffudd Jones yn meddwl bod yna "rai arwyddion positif" o fewn yr ystadegau.
"Er enghraifft, twf yn y niferoedd yn nifer yr oedolion rhwng 19 a 44 sy’n siarad Cymraeg," meddai.
“Sydd mewn gwirionedd yn oedran pwysig iawn o ran trosglwyddo’r Gymraeg i blant ifanc a hefyd o ran dewisiadau yn ymwneud a chyfrwng addysg.”
Dywedodd Ms Gruffudd Jones ni all swyddfa'r Comisiynydd ddigalonni dros y ffigyrau diweddaraf.
Yn hytrach, mae'n rhaid ffocysu ar yr hyn sydd angen ei wneud er mwyn hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
“Mae 'na fwy o waith i neud," meddai.
“Yr hyn sy’n bwysig yw bod y ffeithiau yma ddim yn newid y llwybr clir sydd gyda ni o ran gwneud ymdrechion i gynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.
“Yn arbennig o fewn gwaith y Comisiynydd, cynyddu’r cyfleoedd i bobl defnyddio’r Gymraeg pob dydd.”