Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dalu cyflog cyfartal i dimau cenedlaethol y menywod a'r dynion
Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dalu cyflog cyfartal i dimau cenedlaethol y menywod a'r dynion
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi dod i gytundeb gyda thimau cenedlaethol dynion a merched Cymru i sicrhau cyflog cyfartal i chwaraewyr.
Dywedodd y Gymdeithas y byddai'r cytundeb yn cynnwys y cyfnod hyd at ac yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2026 a Chwpan y Byd FIFA i fenywod yn 2027.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd timau cenedlaethol y dynion a'r merched mewn ymateb i'r cyhoeddiad:
“Gyda’n Gilydd yn Gryfach fu’r mantra ar draws Timau Cenedlaethol Cymru i ni i gyd, ar y cae ac oddi arno wrth i ni geisio rhoi Cymru ar lwyfan y byd.
"Fel rhan o ymdrech CBDC tuag at gydraddoldeb, rydym bellach yn falch o gyhoeddi bod ein timau Dynion a Merched, gyda’n gilydd, wedi cytuno i strwythur cyflog cyfartal ar gyfer gemau rhyngwladol yn y dyfodol.
"Gobeithiwn y bydd hyn yn caniatáu i genedlaethau o fechgyn a merched y dyfodol weld bod cydraddoldeb ar draws pêl-droed Rhyngwladol Cymru, sy’n bwysig i’r gymdeithas gyfan."
Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Noel Mooney, ei fod yn falch gyda'r cytundeb, gan ddweud: “Mae CBDC yn fudiad modern, blaengar sy’n ceisio gwella bob dydd.
"Mae hwn yn gam arall tuag at ddod yn un o sefydliadau chwaraeon gwych y byd a diolchwn i garfanau’r Dynion a’r Merched am eu cydweithrediad anhygoel i gytuno ar hyn.”