Jonathan Edwards 'ddim yn siŵr' a fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf
Mae Aelod Seneddol o Gymru a gafodd rybudd gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig wedi dweud nad yw'n siŵr a fydd yn sefyll yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Dywedodd Jonathan Edwards AS hefyd nad oes ganddo unrhyw fwriad i siarad gydag arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, er i'r ddau gynrychioli'r un etholaeth yn San Steffan a'r Senedd.
Mae Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi ei gynrychioli gan Mr Edwards ers 2010, ond mae bellach yn eistedd fel aelod annibynnol ar ôl iddo adael Plaid Cymru.
Cafodd Jonathan Edwards ei wahardd o'r blaid ar ôl yr ymosodiad ar ei wraig ym mis Mai 2020. Penderfynodd gamu yn ôl o'r blaid ym mis Awst y llynedd ar ôl i Adam Price alw arno i roi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol.
Mae'n dweud bellach na fyddai'n cynnal ymgyrch negyddol yn erbyn Plaid os yw'n penderfynu sefyll yn yr etholaeth unwaith eto, a bod ganddo lawer o barch tuag at gynghorwyr y blaid yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Mr Edwards bellach yn un o 15 AS Annibynnol yn Nhŷ’r Cyffredin, sy'n cynnwys cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a chyn-Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock.
"Dyw fy ngwerthoedd i heb newid," meddai Mr Edwards. "Dwi rhwng y canol a'r chwith, yn sosialydd, a dwi'n grediniol bod angen mwy o rymoedd ac yn y pendraw annibyniaeth er mwyn gallu sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a datblygiad economaidd yng Nghymru.
"Yr unig lwybr gwleidyddol tuag at annibyniaeth yw Plaid Cymru. Mae annibyniaeth yn fwy nag un blaid a gwleidyddiaeth bleidiol."
'Proses disgyblu'
Dywedodd Mr Edwards, sydd o Gwmaman, ei fod yn teimlo mai "esblygiad naturiol" y Blaid Lafur fyddai i Lafur Cymru fod yn "le diogel er mwyn i annibyniaeth gael ei drafod" - ond na fyddai hyn yn golygu fod y Blaid Lafur o blaid annibyniaeth.
Ychwanegodd fod bod yn AS Annibynnol yn ei "ryddhau rywfaint" wedi blynyddoedd o fod yn llefarydd ar ran Plaid Cymru ar bynciau gwahanol, gan ei alluogi i roi mwy o flaenoriaeth i anghenion ei etholwyr.
Mewn ymateb i sylwadau Mr Edwards, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "mae'r broses disgyblu dan sylw wedi hen orffen."
Ychwanegodd y llefarydd bod Plaid Cymru nawr yn canolbwyntio ar ddarparu polisïau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy ei chynllun cyd-weithredu gyda Llywodraeth Cymru.