Newyddion S4C

Prisiau tai yn syrthio yng Nghymru

18/01/2023
S4C

Mae prisiau tai wedi syrthio rhywfaint yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Y pris cyfartalog am dŷ yng Nghymru ym mis Tachwedd oedd £220,366.

Roedd hynny’n gwymp o £223,985 ym mis Hydref, a oedd yn record ar y pryd.

Yn y 12 mis hyd at fis Tachwedd roedd prisiau tai yng Nghymru wedi codi 10.7% ar gyfartaledd.

Ond roedd hynny eto yn is na'r cynnydd o 11.9% yn y flwyddyn hyd at fis Hydref y llynedd.

'Arafu'

Syrthiodd prisiau tai ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig heblaw am Ogledd Iwerddon lle arhosodd prisiau'r un fath, sef £176,131.

Cwymp bychan oedd yn Lloegr o £315,578 i £315,073.

Yn yr Alban roedd cwymp o £193,730 i £191,492.

Dywedodd pennaeth indecsau'r farchnad dai yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Aimee North: “Mae’r cynnydd mewn prisiau tai wedi arafu ym mis Tachwedd.

“Roedd cwymp o fis i fis mewn prisiau tai yn Lloegr, Cymru a’r Alban, ond mae prisiau tai ar gyfartaledd yn y DU yn uwch na’r un adeg y llynedd.”

Dywedodd mai’r Alban oedd wedi gweld y cynnydd lleiaf mewn prisiau tai yn y 12 mis nes mis Tachwedd a Gogledd Orllewin Lloegr a welodd y cynnydd mwyaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.