Gwenno Saunders yn trafod ei anhwylder bwyta pan yn iau
Gwenno Saunders yn trafod ei anhwylder bwyta pan yn iau
Mae’r gantores a'r gyfansoddwraig Gwenno Saunders wedi trafod ei anhwylderau bwyta pan oedd hi’n ferch ifanc.
Ar y rhaglen ‘Sgwrs Dan y Lloer’ mae’n trafod ei phrofiad o fod yn ddawnswraig gyda chynhyrchiad Lord of the Dance yn Las Vegas pan yn 16 oed.
Roedd mynd yn bell o adref a dawnsio yn y sioe enwog wedi bod yn achubiaeth iddi ar y pryd.
“O’dd y dawnsio wir ‘di safio fi. Do’n i’m yn cael lot o hwyl arni yn yr ysgol, o’dd dim bywyd cartref sefydlog da fi. O’dd e’n docyn mas o chaos.”
Ond roedd yna ochr dywyll hefyd meddai.
“O’dd y choreographer ‘di ca’l ni ar y llwyfan un dydd a pigo mas pwy o’dd angen colli pwysau. O’dd pawb yn 16 neu 17. Unwaith o’dd un person ‘di stopio bwyta na’th pawb stopio bwyta.”
Fe sylweddolodd bod angen iddi gamu nôl o’r sefyllfa.
“O’n i’n gweld sut odd problem bwyta’n beth hynod bersonol achos mae’n ymwneud â cymryd rheolaeth o dy fywyd pan mae lot o chaos ynddo. Ond ma rhywbeth reit heintus yn gymdeithasol amdano fe, achos erbyn y diwedd odd hanner y grŵp o ferched ddim yn bwyta. Felly wedyn o’n i’n sort of gwbod mod i angen cael mas o’r sefyllfa yna achos o’n i’n gwybod bod mwy o werth i ‘mywyd na be o’n i’n edrych fel.”
Yn y rhaglen mae hefyd yn trafod ei gwaith cerddorol a’i phenderfyniad i ganu a chyfansoddi yn aml mewn ieithoedd lleiafrifol.
“Mae ‘na lot o bethau ‘di digwydd ar hyd y ffordd sy’ ‘di rhoi lot o ffydd i fi feddwl bod ‘na le i neud pethau heb orfod cyfaddawdu’n ieithyddol.
“Dwi’n creu records yn Gymraeg ac yng Nghernyweg achos dwi’n cael rhywbeth mawr mas o ddefnyddio’r ieithoedd yna. Dwi’n cyrraedd rhan o’n enaid dwi methu neud yn Saesneg,” meddai.
Dyw hi ddim yn berson oedd gyda chynllun pendant o safbwynt gyrfa ers yn ifanc meddai ond roedd hi yn gwybod ei bod eisiau bod yn rhan o’r byd celfyddydol.
Fel mam i un plentyn ac yn disgwyl un arall mae’n dweud bod hi ddim yn bosib cadw bywyd teulu a’i gwaith ar wahan.
Mae ei gŵr, Rhys hefyd yn rhan o’r un byd ac yn cynhyrchu ei cherddoriaeth.
“Dio ddim yn job ti’n mynd a neud a dod gartref o gwbl i fi, achos mae popeth yn bwydo mewn i’w gilydd. A dwi’n meddwl bod o’n bwysig i dy blant gweld ti’n gwneud y peth ti’n caru gwneud, achos maen nhw’n gweld ti’n hapus a wedyn maen nhw’n hyderus.”
Gallwch wylio ‘Sgwrs Dan y Lloer: Gwenno Saunders’ nos Lun ar S4C am 20:00.