Newyddion S4C

Hyfforddiant ar gyfer nyrsys a pharafeddygon yn ymestyn

18/01/2023
Newyddion S4C

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y bydd bron i 400 yn fwy o lefydd hyfforddi ar gyfer nyrsys a pharafeddygon yn cael eu creu yng Nghymru. 

Yn ôl Eluned Morgan, bydd 8% o gynnydd yng nghyllideb hyfforddiant y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Bydd y cynllun yn cefnogi 527 o leoedd hyfforddi ychwanegol ar gyfer amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol y GIG, o wyddonwyr a fferyllwyr i therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion, yn ogystal ag amrywiaeth o nyrsys, yn ôl y llywodraeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Er gwaetha’r pwysau ar ein cyllideb oherwydd chwyddiant, rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol yn y GIG yma yng Nghymru.

“Dw i wrth fy modd o allu cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi unwaith eto i nyrsys a llawer o’r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gan mai nhw sy’n creu sylfaen gadarn i’n gwasanaeth iechyd.

“Rhaid sicrhau bod aelodau gweithlu’r GIG wedi eu hyfforddi’n briodol ac yn meddu ar y sgiliau iawn er mwyn inni allu darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru a gwella’r safonau yn ein gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Nyrsys a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol yn AaGIC, Lisa Llewelyn:

“Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol o’r GIG yng Nghymru, a bydd yn helpu i gynnal y niferoedd presennol yn y gweithlu a hefyd y niferoedd ar gyfer y dyfodol.

"Drwy adeiladu ar dwf y blynyddoedd diwethaf, bydd y lleoedd addysg a hyfforddi ychwanegol yn cynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gwahanol sydd ar gael i ddarparu gofal o safon i’n pobl drwy weithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau yng Nghymru.”

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae newyddion am fwy o lefydd hyfforddi ar gyfer ein nyrsys a pharafeddygon gwerthfawr bob tro i'w groesawu - ond mae'r grwpiau hyn yn streicio ar hyn o bryd, felly faint o hyder sydd gennym ni y byddai hyn mewn gwirionedd yn denu pobl newydd?

"Hyd yn oed pe bai digon o bobl yn cael eu perswadio i weithio yn y GIG dan Lafur - sydd newydd gofnodi'r amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf erioed, ac amseroedd aros gwaethaf Prydain mewn unedau brys a'r rhestr aros hiraf ar gyfer triniaethau - mae hyn ond ar gyfer y tymor hir ac yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her bresennol sy'n achosi anobaith i gleifion a staff."

Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy yn y byr dymor. 

"Mae croeso i unrhyw arian hyfforddi newydd, ond os ydy Llywodraeth Cymru wir o ddifrif am fuddsoddi yng ngweithlu’r GIG, dylent hefyd sicrhau bod staff yn cael tâl teg am eu gwaith caled," meddai llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal, Rhun ap Iorwerth. 

"Mae hyfforddi staff newydd yn hanfodol bwysig, ond ar adeg pan fo gormod o weithwyr yn gadael y GIG, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y broblem o gadw staff yn cael eu taclo hefyd, ac er nad hyn yw’r unig fater sydd angen ei ddatrys, cyflog sydd wrth wraidd hynny.

"Nid yw’r GIG yn ddim byd heb ei weithlu, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos eu hymrwymiad i gadw staff presennol drwy eu talu'n deg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.