Addysg yng Nghymru yn 'parhau i deimlo effeithiau'r pandemig'
Mae addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn "parhau i deimlo effeithiau'r pandemig", yn ôl prif arolygydd ysgolion Cymru.
Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2021-22, mae Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, yn nodi bod effaith negyddol wedi bod ar gynnydd y rhan fwyaf o ddysgwyr.
Mae recriwtio staff sydd â chymwysterau addas yn her ychwanegol, yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd y corff sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion eu bod wedi darparu adnoddau i helpu'r rhai sy'n gweithio ym myd addysg a hyfforddiant.
Mae cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn "her o hyd" yn ôl Estyn.
Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans: "Er gwaethaf ymdrech barhaus i fynd i’r afael ag ôl-effeithiau’r pandemig, bu pwyslais sylweddol ar ddatblygu cwricwlwm newydd mewn ysgolion.
"Yr hyn rydym yn ei weld o’n gweithgarwch arolygu ac ymgysylltiad arall ag ysgolion yw bod yr arweinwyr mwyaf llwyddiannus wedi parhau i roi pwyslais di-ildio ar ansawdd addysgu a’i effaith ar ddysgu.
"Mae hyn yn eu helpu i fynd i’r afael â llawer o’u heriau cyfredol, gan gynnwys diwygio’r cwricwlwm.
"Dylai athrawon ddibynnu ar eu medrau a’u profiad addysgu eu hunain i wneud y gwahaniaeth hwnnw a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, fel y sbardunau hunanwerthuso yn fy Adroddiad Blynyddol a chanllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm i Gymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch fod yr adroddiad blynyddol gan Estyn wedi taflu goleuni ar sut y gwnaeth ein darparwyr addysg a hyfforddiant ymateb i'r heriau yn sgil y pandemig. Ategwn y geiriau hynny gan ddiolch i bawb am eu gwaith parhaus.
"Mae'r pandemig wedi dangos pam, yn fwy nag erioed, mae arnom angen ein Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n rhoi lles wrth galon yr hyn rydym yn ei ddymuno ar gyfer ein dysgwyr; gan eu harfogi nhw i fod yn fentrus, i addasu ac ymateb i fyd sydd yn newid o hyd.
"Rydym yn nodi canfyddiadau'r adroddiad a byddwn yn defnyddio hyn i drwytho ac adolygu gwaith yn y dyfodol."