Comisiynydd y Gymraeg i gysylltu â Morrisons am gyfieithiad gwallus
Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud eu bod nhw’n mynd i gysylltu â chadwyn archfarchnadoedd Morrisons i drafod cyfieithiad Cymraeg gwallus.
Tynnodd Owen Williams lun o’r cyfieithiad oedd yn ymddangos ar beiriant hunanwasanaeth yn ei archfarchnad leol yn y Barri.
Mae’r arwydd yn dweud yn Saesneg: ‘Please note. Unexpected item on the bagging shelf. Remove the item to continue.’
Ond yn Gymraeg mae’n dweud: ‘Effro raddfa. Eitem syndod ar y raddfa bagio. Os gwelwch yn dda tynnu i barhau.’
Mewn neges ar-lein dywedodd Owen Williams wrth Morrisons: “A fyddai’n bosib i chi gael gafael ar gyfieithwyr proffesiynol ar gyfer eich peiriannau hunanwasanaeth os gwelwch yn dda?
“Mae eich ymdrech hanner pan i gyfieithu i’r Gymraeg yn llawn gwallau.
“Mae’r sgrin yma’n chwerthinllyd. Does yna ddim esgus o gwbl.
“So chi’n gallu cyfieithu popeth air am air. Dyw e ddim yn gweithio.”
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg: “Diolch am ddwyn hyn i'n sylw. Byddwn yn cysylltu â Morrisons i drafod y mater. Rydym yn cynnig gwasanaeth prawf ddarllen am ddim i fusnesau ac elusennau.”
Cafodd Efa Gruffydd Jones ei phenodi i swydd Comisiynydd y Gymraeg yn mis Hydref a dechreuodd ar y rôl ddechrau mis Ionawr eleni.
Llun: Owen Williams